Mae’r casineb sy’n cael ei fynegi – a’i annog – yn y Deyrnas Unedig tuag at dramorwyr yn waeth nag a fu erioed.

Yn hiliaeth gwbl agored ac yn alwadau diamwys am drais mewn fforymau trafod ar y We.

Yn fideos llawn casineb di-flewyn-ar-dafod gan neo-ffasgiaid.

Yn erthyglau ymfflamychol a chelwyddog yn y Wasg dabloid adain dde.

Yn gyfraniadau ffug-ddeallusol at raglenni ar orsafoedd ‘newyddion’ honedig fel GB News.