Gwern ap Gwyn yw gwestai podlediad cyntaf Ar y Bwrdd dan ofal Sywel Nyw ar sianel YouTube. Dyna lot o ffeithiau mewn un frawddeg.

Ar Y Bwrdd yw enw’r podlediad. Sywel Nyw sydd yn gwneud yr holi [sef Lewys Wyn sy’n canu a chwarae’r gitâr gyda band Yr Eira, ac wedi recordio deuawdau gyda nifer o gantorion dan yr enw Sywel Nyw].

Y cerddor Gwern ap Gwyn, mab Gwyn Maffia [drymiwr Maffia Mr Huws] a Siân James, yw’r gwestai cyntaf.