Gwarth ydi o. Mi ddeudish i wrth Menna. Mae hi’n un o’r rhai yma sy’n licio tynnu’n groes, ac mi fydda i’n dal fy nhafod fel arfer. Roedd ei mam hi’n arfer dweud ein bod ni’n dau’n rhy debyg, mai dyna oedd yn achosi’r holl anghydweld a’r dadlau. Ond wela i ddim ohona i fy hun yn fy merch.