Y manylion sy’n bwysig yn aml mewn perfformiad; amseru a phwyslais a phethau o’r fath.

Felly y bydd hi hefyd o ran y newidiadau sylweddol y mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn eu cynnig yn nhrefn yr ŵyl ym Moduan.

Yn ddigon naturiol efallai, lleisiau’r gwrthwynebwyr sydd wedi bod ucha’ hyd yn hyn… ond mae hynny’n bownd o fod ynghylch digwyddiad traddodiadol sy’n troi o amgylch cystadlu.