Dros y pymtheg mlynedd diwethaf, does yna’r un blaid wleidyddol wedi bod yn llawer mwy effeithiol, ac arwynebol alluog, na’r SNP. Mae’r rheswm yn ddigon syml, mewn difri. Dros y cyfnod hwnnw mae hi wedi cael dau arweinydd eithriadol o ddawnus ar ffurf Alex Salmond (y mae ei enw’n faw braidd erbyn hyn) a Nicola Sturgeon.