Yr wythnos hon mae hi’n ugain mlynedd ers cychwyn y rhyfel i ddisodli Saddam Hussein yn Irac, ac mae cryn dipyn o drafod wedi bod.

Y peth cyntaf i’w ddweud yw bod y rhyfel yn anghyfreithlon.

Aeth Prydain i ryfel ar y sail fod gan Irac arfau dinistriol anferthol – weapons of mass destruction.

Roedd Llywodraeth Lafur y dydd yn honni fod gan Saddam Hussein y gallu i ladd milwyr Prydeinig yng Nghyprus gyda’r arfau hyn, a bod angen dybryd i daro gyntaf cyn dioddef ymosodiad o’r fath.