Mae gwraig y cyflwynydd teledu Huw Edwards wedi cyhoeddi mewn datganiad mai ei gŵr sydd wedi bod ynghlwm â honiadau am un o gyflwynwyr y BBC dros y dyddiau diwethaf.

Mewn datganiad dywedodd Vicky Flind, gwraig y darlledwr o Gymru, ei bod yn gwneud y datganiad ar ran ei gŵr sy’n “dioddef o broblemau iechyd meddwl difrifol.”

Ychwanegodd ei fod yn derbyn gofal mewn ysbyty “lle bydd yn aros am y dyfodol rhagweladwy” ar ôl cael “pwl difrifol arall”.

Cafodd yr honiadau eu cyhoeddi ym mhapur newydd The Sun ddydd Gwener diwethaf.

Roedd yr honiadau’n ymwneud â thalu person ifanc am ddelweddau anweddus.

Honnir bod y person ifanc yn 17 oed ar y pryd. Roedd honiadau eraill wedi cael eu gwneud i’r BBC ers hynny yn ymwneud â pherson ifanc arall.

Ond dywed Heddlu Llundain eu bod nhw wedi dod â’u hymchwiliad i gyflwynydd y BBC i ben, ac nad oes tystiolaeth bod trosedd wedi cael ei chyflawni.

Dywed y BBC y byddan nhw yn parhau gyda’u hymchwiliad “wrth gadw mewn cof ein dyletswydd gofal i bawb dan sylw.”

Datganiad Vicky Flind

“Yn sgil yr adroddiadau diweddar ynglŷn â ‘chyflwynydd y BBC’ rwy’n gwneud y datganiad hwn ar ran fy ngŵr Huw Edwards, ar ôl pum diwrnod hynod o anodd i’n teulu ni. Rwy’n gwneud hyn yn bennaf oherwydd pryder am ei iechyd meddwl ac i ddiogelu ein plant,” meddai Vicky Flind mewn datganiad i asiantaeth newyddion PA.

“Mae Huw yn dioddef o broblemau iechyd meddwl difrifol. Fel sy’n hysbys iawn, mae wedi cael triniaeth ar gyfer iselder difrifol yn y blynyddoedd diwethaf. Mae digwyddiadau’r dyddiau diwethaf wedi gwaethygu pethau’n fawr, mae wedi dioddef pwl difrifol arall ac mae bellach yn derbyn gofal ysbyty fel claf mewnol lle bydd yn aros am y dyfodol rhagweladwy.

“Unwaith y bydd yn ddigon da i wneud hynny, mae’n bwriadu ymateb i’r straeon sydd wedi’u cyhoeddi. I fod yn glir cafodd Huw wybod gyntaf bod yna honiadau yn ei erbyn ddydd Iau diwethaf. “O dan yr amgylchiadau, ac o ystyried cyflwr Huw, hoffwn ofyn i breifatrwydd fy nheulu a phawb arall sydd wedi bod yn rhan o’r digwyddiadau gofidus hyn, gael ei barchu. Gwn fod Huw yn flin iawn bod y dyfalu diweddar yn y cyfryngau wedi effeithio ar gynifer o gydweithwyr. Gobeithiwn y daw’r datganiad hwn â hynny i ben.”

“Dim tystiolaeth bod unrhyw droseddau wedi’u cyflawni”

Yn gynharach, roedd Heddlu’r De wedi cadarnhau eu bod wedi siarad gyda’r BBC a Heddlu Llundain ddydd Llun (Gorffennaf 10).

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu’r De ddydd Mercher (Gorffennaf 12) eu bod yn parhau i fod mewn cysylltiad gyda Heddlu Llundain a’r BBC yn dilyn eu cyfarfod ddydd Llun.

Dywedodd Heddlu’r De eu bod nhw wedi derbyn gwybodaeth am “les oedolyn” ym mis Ebrill eleni, ond nad oedden nhw’n credu bod unrhyw drosedd wedi’i chyflawni.

“Yn dilyn datblygiadau diweddar, mae ymholiadau pellach wedi eu cynnal ac mae swyddogion wedi siarad â nifer o bartïon i sefydlu a oes unrhyw honiadau troseddol yn cael eu gwneud.

“Ar hyn o bryd, nid oes tystiolaeth bod unrhyw droseddau wedi’u cyflawni. Does dim ymholiadau parhaus yn cael eu cynnal gan Heddlu’r De.

“Fodd bynnag, os bydd tystiolaeth o drosedd neu faterion diogelu yn dod i’r amlwg ar unrhyw adeg yn y dyfodol yna bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal iddyn nhw.”

Wyneb adnabyddus

Mae Huw Edwards, sy’n 61 oed, wedi gweithio i’r BBC ers dros 40 mlynedd.

Mae’n wyneb adnabyddus ar brif raglenni newyddion y BBC ac wedi cyflwyno rhai o brif ddigwyddiadau newyddion y Deyrnas Unedig dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae hefyd wedi cyflwyno rhaglenni S4C a BBC Radio Cymru.