Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu beirniadaeth wedi i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford gyhoeddi ddoe (11 Gorffennaf) na fydd prydau ysgol am ddim yn cael eu cynnig dros wyliau’r haf.

Yn ôl Sioned Williams, Aelod o Blaid Cymru sy’n eistedd ar Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, “mae cwestiynau i’w gofyn.”

“Wnaethon ni ddim derbyn unrhyw ddatganiad na rhybudd i’r Senedd am hyn, naill ai ar lafar neu yn ysgrifenedig, gyda jest ychydig o wythnosau ar ôl o dymor y Senedd a hefyd, wrth gwrs, o’r tymor ysgol,” meddai wrth golwg360.

“Mae elusennau plant yn poeni yn unfryd ac wedi ysgrifennu at y Gweinidogion yn dweud bydd y penderfyniad yma yn cael canlyniadau ofnadwy a bydd plant yn mynd heb fwyd dros yr haf.

“Wrth gwrs, rydyn ni’n gwybod bod yr argyfwng costau byw ddim yn lleddfu a bod chwyddiant prisiau bwyd yn enwedig yn broblem.

“Felly, rydw i eisiau gwybod pam benderfynwyd ar hyn a pham gafodd o ddim ei gyfathrebu yn gynharach.”

‘Dim cyfle i baratoi’

Mae hi’n pryderu bod y diffyg rhybudd yn golygu bod teuluoedd heb gael y cyfle i baratoi am y gwariant ychwanegol.

“Mae gwasanaethau trydydd sector sy’n cefnogi teuluoedd fel banciau bwyd yn gwegian yn barod, a bydd mwy o alw nawr yn amlwg dros yr haf,” meddai.

“Mae yna gynlluniau ar y gweill ac roedd y Prif Weinidog wedi sôn yn ystod y cwestiynau ddoe ynglŷn â’r rhaglen gyfoethogi yma, Bwyd a Hwyl, sydd yn rhedeg dros y gwyliau.”

Fodd bynnag, er i’r Prif Weinidog ddweud y byddai’r cynllun yn cyrraedd mwy o blant nag erioed nid yw Sioned Williams yn credu y bydd yn cyrraedd pawb sy’n gymwys am brydau am ddim.

“Roedd e’n sôn am 30,000 o blant ond mae rhywbeth fe teirgwaith hynny sy’n gymwys am brydau am ddim,” meddai.

“Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi eu strategaeth Tlodi Plant ac maen nhw’n ymgynghori arno fo ar hyn o bryd ond dydy hyn ddim yn alinio o gwbl gydag uchelgais na blaenoriaethau sydd yn y strategaeth honno.”

‘Ddim yn syndod’

Dywedodd llefarydd Addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Laura Anne Jones, nad yw hyn yn syndod.

“Mae’r newyddion yma’n arwyddocaol o Lafur Cymru,” meddai.

“Unwaith eto maen nhw’n gallu siarad ond yn methu â gweithredu pan ddaw i brydau ysgol am ddim yng Nghymru.

“Mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn parhau â’u rhaglen gweithgareddau gwyliau a bwyd, gan wneud cais yn Lloegr, i ddarparu cymorth i’r plant mwyaf agored i niwed ar brydau ysgol am ddim, tra bod y Llywodraeth Lafur yn torri ein rhai ni yng Nghymru.”

Rhaglen Bwyd a Hwyl

Er hynny, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai “ymyriad dros dro” oedd prydau am ddim dros wyliau ysgol.

“Ymyriad dros dro mewn argyfwng, mewn ymateb i’r pandemig, oedd ymestyn prydau ysgol am ddim i gyfnod y gwyliau,” meddai.

“Yn dilyn nifer o estyniadau, fe wnaethon ni gadarnhau ym mis Mawrth y bydden ni’n cyllido’r trefniant tan ddiwedd gwyliau hanner tymor mis Mai.

“Yn ystod yr haf, bydd yna brosiectau gwyliau o bob math ar gael ledled Cymru, gan gynnwys cynllun Bwyd a Hwyl, yr ydyn ni’n ei gyllido, a bydd ar gael ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol am y tro cyntaf.

“Rydyn ni’n parhau i gefnogi teuluoedd drwy’r argyfwng costau byw, ac rydyn ni wedi buddsoddi mwy na £3.3bn mewn rhaglenni a chynlluniau sy’n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl.”

Fodd bynnag, rhaid i 16% o ddisgyblion yr ysgol fod yn derbyn prydau am ddim er mwyn gallu rhedeg rhaglen Bwyd a Hwyl.