Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi siarad gyda’r BBC a Heddlu’r Metrolpolitan yn Llundain ddydd Llun (Gorffennaf 10).

Mae’n dilyn honiadau am gyflwynydd gwrywaidd y BBC sydd heb gael ei enwi. Cafodd yr honiadau eu cyhoeddi ym mhapur newydd The Sun ddydd Gwener diwethaf. Mae’r honiadau’n ymwneud â thalu person ifanc am ddelweddau anweddus. Honnir bod y person ifanc yn 17 oed ar y pryd.

Mae honiadau eraill wedi cael eu gwneud i’r BBC ers hynny yn ymwneud â pherson ifanc arall.

Dywedodd Heddlu’r De mewn datganiad eu bod wedi cynnal y cyfarfod i rannu gwybodaeth am “les oedolyn”.

Maen nhw’n dweud eu bod wedi derbyn y wybodaeth am yr oedolyn ym mis Ebrill eleni ond nad oedden nhw’n credu bod unrhyw drosedd wedi’i chyflawni.

“Yn sgil datblygiadau diweddar, mae ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal i geisio darganfod a oes tystiolaeth o drosedd,” meddai’r heddlu.

Yn y cyfamser mae’r cyflwynydd radio Jeremy Vine wedi galw ar y cyflwynydd dan sylw i gyhoeddi ei enw gan ddweud bod y sgandal yn “achosi niwed” i enw da’r BBC.