Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu colled ariannol o £27m a wnaed yn sgil dod a Chronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru i ben.

Yn ôl datganiad gan Lywodraeth Cymru heddiw (12 Gorffennaf) bu i’r gronfa golli £27.1 miliwn yn ystod ei flwyddyn olaf.

Cafodd y gronfa ei chau yn ystod mis Chwefror eleni wedi i’w thymor rhagnodedig o ddeng mlynedd ddod i ben. Mae’r ffigyrau yn cyfeirio at y cyfrifon ar gyfer y flwyddyn 2022-2023.

“Yn ôl cyfaddefiad y Llywodraeth Lafur ei hun, maen nhw wedi bod yn gyfrifol am golled sylweddol yng ngwerth arian trethdalwyr a fuddsoddwyd yn y sector gwyddorau bywyd,” meddai llefarydd Economi’r Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.

“Mae hyn yn embaras cenedlaethol.”

‘Osgoi craffu’

Cyhuddodd Paul Davies y llywodraeth o osgoi cwestiynau trwy ryddhau’r datganiad ar ddiwrnod olaf y cyfarfodydd llawn.

“Cafodd y Datganiad Ysgrifenedig ei ryddhau ar ddiwrnod olaf y cyfarfod llawn wrth i Lywodraeth Cymru osgoi cwestiynau ac osgoi craffu,” meddai.

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn brolio bod buddsoddiad £50 miliwn Gweinidog Llafur yr Economi wedi helpu i ddiogelu neu greu 310 o swyddi, ond mae hyn wedi dod ar gost o dros £160,000 am bob swydd ac wedi cymryd 10 mlynedd.

“Testament i ddiffyg darbodusrwydd ariannol Llafur.

“Mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn edrych ar y buddsoddiad mwyaf erioed yn y sector gwyddoniaeth.

“Tra bod y Ceidwadwyr Cymreig am weld y math hwn o uchelgais yma yng Nghymru, mae Llafur wedi profi dro ar ôl tro na ellir ymddiried ynddynt ag arian trethdalwyr Cymru.”

‘Llwyddo’n sylweddol’

Er hynny, mae Llywodraeth Cymru yn honni bod y gronfa wedi “llwyddo yn sylweddol y tu hwnt i gyd-fuddsoddiad y sector preifat” wrth iddo ddenu dros £200miliwn.

“Yn ystod oes y gronfa o 10 mlynedd, mae’r buddsoddiadau a wnaed wedi cefnogi canlyniadau cadarnhaol ac wedi creu swyddi o ansawdd uchel,” meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething.

“At ei gilydd, mae’r gronfa wedi helpu i ddiogelu neu greu mwy na 310 o swyddi gwerth uchel dros 10 mlynedd yng Nghymru.

“Erbyn diwedd mis Rhagfyr 2019, roedd gwerth gweddill y buddsoddiadau wedi gostwng i £15m, gan adlewyrchu perfformiad y portffolio.”

‘Wedi cyflawni ei hamcanion’

Dywed Llywodraeth Cymru bod y gronfa wedi gweld rhai llwyddiannau – er gwaethaf y golled ariannol.

“Er bod y gronfa hon wedi arwain yn y pen draw at golled ariannol, mae wedi cyflawni llawer o’i hamcanion datganedig,” meddai Vaughan Gething.

“Roedd yn fuddsoddiad peilot, unigryw o ran ei fod yn cael ei reoli gan reolwr cronfa allanol – dull na chafodd ei ailadrodd ers hynny.

“Mae’r colledion a ddioddefodd yn cael eu lliniaru gan y buddsoddiad hwn o fewn portffolio mwy o fuddsoddiadau Llywodraeth Cymru o fewn Banc Datblygu Cymru gan ddefnyddio cyfalaf trafodion ariannol.

“Y strategaeth yw buddsoddi’r math hwn o gyllid ad-daladwy fel rhan o bortffolio cytbwys.

“Mae hyn yn galluogi colledion, pan fyddant yn digwydd, i gael eu gwrthbwyso gan enillion cryfach ar fuddsoddiadau risg is.”