“Siomedig iawn” ydy ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am wasanaethau gofal, yn ôl un o awduron yr adroddiad, Sioned Williams.

Roedd 27 o argymhellion gan y Pwyllgor i gyd a dywedodd yr Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru, Sioned Williams, bod 12 o’r rhain yn “ddiwygiadau radical” oedd eu hangen “er mwyn gwneud y newidiadau mwyaf pwysig i’r sefyllfa.”

Ond, yn dilyn tro pedol, dim ond un o’r 12 argymhelliad sydd wedi cael ei dderbyn yn llawn erbyn hyn.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi ymrwymo i ddiwygio gwasanaethau gofal plant a phobl ifanc.

Yn ogystal, maen nhw wedi llofnodi datganiad gan bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal er mwyn addo i ddarparu’r cymorth gorau posib.

‘Hynod, hynod siomedig’

“Felly, o’r 12 yna dim ond un mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yn llawn, saith yn rhannol a gwrthod pedwar, felly hynod, hynod o siomedig,” meddai Sioned Williams wrth golwg360.

“Mae siomedig efallai yn air rydyn ni weithiau yn gor-ddefnyddio ond mae hwn yn crisialu, rydw i’n meddwl, beth sy’n cael ei olygu gan y gair siomedig.

“Rydw i’n gwybod bydd y bobl ifanc yna wnaeth ein helpu ni i lunio’r argymhellion yma ar sail y dystiolaeth hefyd yn siomedig.”

Yn eu rhaglen lywodraethol, roedd sôn bod Llywodraeth Cymru yn awyddus i ystyried diwygio radical.

“Wnaethon ni, fel Pwyllgor, ystyried hynny a chynnal ymchwiliad hynod o drylwyr oedd yn rhoi lleisiau pobl ifanc wrth galon yr adroddiad a wnaethon ni wedyn benderfynu yr oedden ni’n mynd i awgrymu pethau radical a fyddai wir yn gwneud newid,” meddai.

Diwygiadau radical

Felly, beth yn union oedd y diwygiadau radical o dan sylw?

“Un o’r themâu wnaethon ni glywed yn gryf iawn oedd bod pobl ifanc oedd mewn gofal neu wedi gadael gofal yn teimlo bod dim llais gyda nhw a’u bod nhw’n ei ffeindio’n anodd iawn i gael cefnogaeth,” meddai.

“Felly, wnaethon ni argymell y dylai hynny fod yn rhywbeth bod ganddyn nhw hawl iddo fo a bod hynny yn parhau’n hirach iddyn nhw ond mae hynny wedi ei wrthod.”

Pryder arall oedd wedi “ei glywed yn gryf iawn” oedd effaith y pwysau sydd ar wasanaethau a gweithwyr cymdeithasol ar eu gallu i gefnogi pobl ifanc mewn gofal neu yn gadael gofal.

“Rydyn ni’n gwybod bod llwyth gwaith yn broblem a bod hynny wedyn yn creu rhyw fath o gylch dieflig o ran anawsterau recriwtio a chadw yn y proffesiwn,” meddai.

“Felly, wnaethon ni hefyd sôn am gael rhyw fath o lefel statudol diogel o ran llwyth gwaith yn yr un modd ac sydd gyda ni o fewn rhannau o’r gwasanaeth iechyd.

“Rydw i’n teimlo y byddai hynny wedi helpu i fynd i’r afael a’r ffaith bod pobl ifanc wedi dweud wrthym ni, er mwyn cael sylw weithiau, maen nhw’n gorfod bygwth niweidio eu hunain – mae’r peth yn dorcalonnus.”

‘Geiriau nid gweithredu’

Ond, amlygodd Sioned Williams nad bai’r gweithwyr gofal oedd hyn a bod yn rhaid i’r newid ddigwydd ar lefel uwch.

“Mae’r bobl yma yn bobl ifanc sydd angen perthynas maen nhw’n gallu ymddiried ynddo fo,” meddai

“Dydw i ddim yn gweld bai ar y gweithwyr cymdeithasol am hynny, y pwysau ar y system sydd ar fai.

“Yn eu hymateb mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod gofal plant a phobl ifanc yn rhywbeth pwysig ac yn flaenoriaeth bersonol i’r Prif Weinidog.

“Geiriau nid gweithredu yw hyn a byddwn i’n annog i’r Llywodraeth ailystyried a chofleidio’r syniadau uchelgeisiol yma sydd wedi seilio ar dystiolaeth, data ac, yn bwysicach oll, profiadau a realiti’r sefyllfa.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi derbyn, neu wedi derbyn yn rhannol, 20 o argymhellion.

“Rydym eisoes wedi dechrau gweithio yn y meysydd hynny lle nad ydyn wedi derbyn yr argymhellion.”