Mae nifer gwylwyr S4C yng Nghymru bob wythnos wedi codi 8% yn uwch na’r llynedd, y ffigurau uchaf i’r darlledwr ers pum mlynedd

Wrth i S4C gyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022-23, mae’r gwasanaeth yn dweud ei bod hefyd wedi gweld twf yn nifer y gwylwyr rhwng 16-44 oed i’r lefel uchaf mewn deng mlynedd.

Mae S4C hefyd yn nodi llwyddiant gwerthu cyfres ddrama Dal y Mellt i Netflix, a gwerthu cyd-gynhyrchiad drama cyntaf S4C gyda Channel 4, Y Golau yn rhyngwladol.

Gwelodd S4C dwf o 10% hefyd yn y gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer, tra fod nifer yr oriau wyliwyd ar YouTube wedi bron â dyblu o fewn blwyddyn. Mae hyn yn dilyn buddsoddiad i drawsnewid llwyfannau gwylio, meddai S4C.

Er fod patrwm o fewn y sector darlledu o wylio teledu llinol traddodiadol yn lleihau a’r gynulleidfa yn heneiddio, dywedodd S4C ei bod yn mynd yn groes i’r patrwm yma.

Mae oedran cyfartaledd gwylwyr S4C hefyd wedi mynd yn ieuengach dros y bum mlynedd diwethaf a hynny oherwydd rhaglenni fel Gogglebocs Cymru, Pen Petrol a’r darllediadau o bêl-droed Cymru. Mae hefyd wedi arwain at gynnydd yn y gwylio llinol ar y teledu hefyd.

“Mwy o wylwyr iau”

Dywedodd Rhodri Williams, Cadeirydd Bwrdd Unedol S4C:

“Yn ystod y flwyddyn rydym wedi gweld cynnydd sylweddol wrth i S4C drawsnewid o fod yn sianel deledu llinol yn unig i fod yn gyhoeddwr cynnwys creadigol, aml-blatfform.

“Mae argaeledd ein cynnwys ar amrywiaeth o lwyfannau digidol wedi golygu bod mwy o bobl yn ei weld, yn enwedig gwylwyr iau.

“Mae argaeledd ac amlygrwydd yn mynd law yn llaw, ac mae hynny yn bwysicach nag erioed o’r blaen er mwyn sicrhau bod cynulleidfaoedd yn gallu mwynhau’r cyfoeth o gynnwys gafaelgar sydd i’w gael ar eu cyfer yn yr iaith Gymraeg.

“Rydym yn croesawu penderfyniad Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu cyllid ychwanegol i S4C o Ebrill 2022 ymlaen, a’r cynlluniau arfaethedig i ddeddfu i sicrhau amlygrwydd i ddarparwyr cyfryngau cyhoeddus, ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at y ddeddfwriaeth yn dod i rym.”

“Twf ar ein holl blatfformau”

Ychwanegodd Sian Doyle, Prif Weithredwr S4C:

“Rwy’n falch fod ein cynnwys wedi arwain at dwf ar ein holl blatfformau, ein perfformiad cryf ymysg gwylwyr iau a’r llwyddiant wrth werthu ein rhaglenni yn rhyngwladol.

“Mae’r cynnydd yma yn brawf o frwdfrydedd ac ymdrech staff S4C a’n partneriaid ni yn y sector yma yng Nghymru.

“Gwych hefyd yw gweld parhad y cynnydd welwyd yn 2022-23 yn ein ffigurau ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn hon.

“Mae S4C yn falch o hybu’r iaith Gymraeg, sbarduno siaradwyr newydd a chodi hyder siaradwyr i ddefnyddio’r iaith.

“Ein bwriad ni yw cyfleu Cymru yn ei chyfanrwydd, gan adlewyrchu’r amrywiaeth eang o bobl a straeon sydd i’w canfod ar hyd a lled y wlad.”