Oherwydd cynnydd mewn achosion o lygredd, mae Dŵr Cymru wedi cael ei israddio am yr ail flwyddyn yn olynol.
Penderfynodd Cyfoeth Naturiol Cymru leihau sgôr y cwmni dŵr o dair seren i ddwy gan nodi eu bod “angen gwella” yn dilyn pryderon diweddar.
Daw hyn wedi i Dŵr Cymru fod yn gyfrifol am 91 achos o lygredd carthion yn 2022.
Llynedd, cwympodd sgôr y cwmni o bedair seren – sy’n golygu eu bod yn arwain yn y diwydiant – i dair seren, sef “da.”
Roedd hyn ar ôl i Dŵr Cymru’n fod yn gyfrifol am 83 achos o lygredd carthion o gymharu â 77 y flwyddyn flaenorol.
Datgelwyd adroddiad diweddaraf Cyfoeth Naturiol Cymru a ryddhawyd bore heddiw (12 Gorffennaf) bod llygredd dŵr wedi cynyddu 9% yn 2022.
Yn ôl yr adolygiad roedd nifer yr achosion oedd wedi cael “effaith fawr neu sylweddol” hefyd wedi cynyddu o dri i bump.
Cynyddodd Dŵr Cymru eu bil cyfartalog i gwsmeriaid i £499 y flwyddyn ym mis Ebrill, sef yr ail fil uchaf yng Nghymru a Lloegr.
‘Cydnabod’ y cwynion
Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru eu bod nhw’n “gweithio’n ddiflino” i gyflawni’r gwelliannau angenrheidiol a’u bod nhw’n “cydnabod nad yw ein perfformiad lle rydym am iddo fod.”
Dywedon nhw fod tywydd garw a newid hinsawdd hefyd wedi chwarae rôl yn y cynnydd mewn nifer o achosion llygredd.
“Mae’r newidiadau hyn yn cael effaith sylweddol a chynyddol ar ein seilwaith dŵr a dŵr gwastraff ac yn her wrth i ni ddarparu ein gwasanaethau,” medden nhw.
“Er i ni gofnodi pum digwyddiad llygredd difrifol ar gyfer 2022, o gymharu â thair yn 2021, mae gennym yr ail lefel isaf o achosion o lygredd yn y diwydiant dŵr, gyda nifer y digwyddiadau llygredd wedi haneru dros y 10 mlynedd ddiwethaf.
“Mae’n ddrwg gennym, fodd bynnag, am unrhyw niwed amgylcheddol yr ydym wedi’i achosi.
“Fis Mai fe wnaethom gyhoeddi ein Maniffesto ar gyfer Afonydd yng Nghymru, yn amlinellu ein buddsoddiadau a’n hymrwymiadau i helpu i wella ansawdd dŵr afonydd.”
Buddsoddiad ar y gweill
Yn ôl y cwmni, maent yn bwriadu buddsoddi £100 miliwn i wella ansawdd afonydd Cymru erbyn 2025.
“Bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau gwelliannau gwirioneddol ac mae wedi helpu i sicrhau bod 44% o’n hafonydd yn cwrdd â ‘statws ecolegol da’ – o gymharu â dim ond 14% yn Lloegr – a bod gennym tua thraean o draethau Baner Las y DU er mai dim ond 15% o’r arfordir sydd gennym,” medden nhw.
Dywedodd prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, eu bod yn “siomedig iawn” bod perfformiad Dŵr Cymru wedi gwaethygu.
“Mae angen i gwmnïau dŵr gymryd camau brys a pharhaus i wneud y newidiadau sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r achosion llygredd sylweddol yr ydym yn eu gweld yn ein dyfroedd,” meddai.