Bydd ail-gread o’r ymosodiad ar dollborth Efail-wen yn 1839 yn cael ei drefnu yn y pentref yn ardal y Preselau ar 17 Gorffennaf.

Bydd yr ail-gread yn gychwyn ymgyrch i osod cerflun efydd o Thomas Rees – neu Twm Carnabwth fel roedd yn cael ei adnabod – y tu allan i Gaffi Beca. Mae’r ymgyrch yn gobeithio codi £10,000 ar gyfer y gwaith cychwynnol.

Twm Carnabwth oedd arweinydd cyntaf Merched Beca, a ddinistriodd dollborth Efail-wen ger Mynachlog-ddu deirgwaith yn 1839.

Bydd yr actor adnabyddus, Rhodri Ifan, yn chwarae rhan ‘Twm Carnabwth’, arweinydd y gwrthryfelwyr lleol oedd yn benderfynol o ddinistrio’r hyn roedden nhw yn ei weld fel symbol o orthrwm.

Datblygodd eu dull o weithredu yn batrwm ar draws gorllewin Cymru yn ddiweddarach wrth i Derfysgwyr Becca ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol.

Bydd ‘terfysgwyr’ yng ngwisgoedd gwragedd â’u hwynebau wedi’u duo, fel roedden nhw ar y pryd, yn cynorthwyo ‘Twm’ i ddinistrio’r iet.

Roedd Twm ei hun wedi benthyca dillad Rebecca Phillips ar gyfer yr achlysur a dyna pam y rhoddwyd yr enw Becca i’r mudiad.

Mae’r achlysur yn cael ei gynnal ar yr union ddyddiad â’r trydydd ymosodiad a’r olaf ar y tollborth yn 1839 cyn i’r awdurdodau ildio a chydnabod cwynion y ffermwyr.

‘Her’

Dywedodd ysgrifennydd yr ymgyrch, Hefin Wyn bod yr ymgyrch yn enw Cymdeithas Cwm Cerwyn, yn cael ei chefnogi gan y gymuned gyfan am fod Twm Carnabwth yn cael ei weld fel arwr lleol gyda’i weithredoedd yn arwain at ddatblygiadau radical yn ail hanner y 19ganrif.

Ychwanegodd y bydd llunio cerflun yn her am nad oes lluniau o Twm Carnabwth ar gael fel y byddai’n arferol wrth gynnig comisiwn o’r fath.

“Bydd angen cryn dipyn o ddychymyg i bortreadu Twm fel cymeriad tanllyd a oedd yn benderfynol  o ddileu anghyfiawnder,” meddai.

Canu

Yn rhan o’r lansiad bydd dau denor adnabyddus, Trystan Llyr a Teifryn Rees, yn canu hoff emyn Twm, ‘Iesu difyrrwch f’enaid drud’. Bydd côr enfawr o ddisgyblion tair o’r ysgolion cymunedol lleol hefyd yn cyflwyno un o ganeuon Tecwyn Ifan am helynt Becca.

Bydd yr ail-gread yn Efail-wen nos Lun, 17 Gorffennaf am 7yh y tu allan i Gaffi Beca ar y briffordd rhwng Aberteifi ac Arberth.