Mae Cymru yn “methu” o ran denu twristiaid rhyngwladol – dyna gasgliad adroddiad gan Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan.

Yn ôl y Pwyllgor, mae diffyg “brand unigryw” yng Nghymru ac mae hynny wedi effeithio ar y gallu i ddenu twristiaid.

Daw hyn wedi i 41m o dwristiaid rhyngwladol ymweld â’r Deyrnas Unedig yn 2019 ond dim ond miliwn o’r rhain fu’n ymweld â Chymru.

Yn ogystal, dim ond 2% o holl wariant twristiaid rhyngwladol yn y Deyrnas Unedig ddaeth i economi Cymru.

Clywodd y Pwyllgor nad oedd 57% o ymwelwyr tramor Cymru wedi gweld unrhyw fath o ddeunydd marchnata cyn eu hymweliad.

Pryder arall oedd y diffyg gwyliau pecyn yng Nghymru, er i 27% o dwristiaid ddweud y bydden nhw’n fodlon gwneud taith hirach pe bai pecynnau gwyliau yn opsiwn.

‘Diffyg brand unigryw’

Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor, yr Aelod Seneddol Ceidwadol Stephen Crabb, bod tystiolaeth glir mai’r diffyg brandio oedd y broblem

“Er gwaethaf arlwy di-ri ac unigryw Cymru sy’n amrywio o draethau tywodlyd a moroedd glas yn Sir Benfro, i’r llinell wib gyflymaf yn y byd ar gyfer ceiswyr gwefr yng ngogledd Cymru, mae’r genedl yn methu wrth ddenu ymwelwyr rhyngwladol,” meddai.

“Mae sefydliadau’r DU a ddylai fod yn gyfrifol am hyrwyddo ymweliadau â Chymru, fel VisitBritain, yn ei hanwybyddu’n rheolaidd yn eu deunyddiau marchnata eu hunain.

“Mae cwmnïau gwyliau yn methu’n gyson â chynnig Cymru fel cyrchfan gwyliau.”

Ymysg yr awgrymiadau ar gyfer cryfhau’r brandio oedd canolbwyntio ar natur, hanes, chwedlau a’r iaith Gymraeg, ond ni fu consensws.

Trafnidiaeth yn rhwystr

Rhwystr arall oedd y seilwaith trafnidiaeth.

“Mae’r seilwaith trafnidiaeth yn atal twristiaid rhyngwladol rhag dod i Gymru, a byddai’r rhwydwaith ffyrdd gwael yn gwneud teithio i rai lleoliadau arbennig yn dalcen caled iawn,” meddai Stephen Crabb.

“Ydy hi’n syndod nad Cymru yw’r gyrchfan twristiaeth fyd-eang y gall fod?”

Yn ystod ymweliad a’r Unol Daleithiau yn gynharach yn y flwyddyn, clywodd y Pwyllgor bod llawer o dwristiaid o’r wlad ddim yn ystyried Cymru fel cyrchfan oherwydd y seilwaith trafnidiaeth wael.

“Mae’n anodd cyrraedd atyniadau twristaidd mawr fel Ffordd Arfordir y Gogledd, Sir Benfro ac Eryri heb gar, taith sy’n anoddach fyth gyda chyflwr gwael a diffyg buddsoddiad yn rhwydwaith ffyrdd Cymru,” meddai’r Pwyllgor.

Y dorf yn dod i Wrecsam

Ond, nododd y Pwyllgor bod ychydig o lwyddiant wedi bod hefyd gyda’r rhaglen Welcome to Wrexham gyda’r sêr Hollywood Rob McElhenney a Ryan Reynolds yn codi proffil y clwb pêl-droed sydd wedi arwain at fwy o ymwelwyr.

Awgrymodd y Pwyllgor bod angen sicrhau bod mwy yn cael ei wneud i fanteisio ar lwyddiant y gyfres a denu rhagor o ymwelwyr i’r ardal.

Cydweithio?

Awgrym y Pwyllgor oedd bod VisitBritain a Chroeso Cymru’n cydweithio er mwyn creu delwedd brand cadarn.

Yn ogystal, awgrymon nhw wneud Croeso Cymru yn weithredol annibynnol rhag Gweinidogion.

Dadleuodd y Pwyllgor nad oes gan VisitBritian eu hunain yr arbenigedd sydd ei angen arnynt i hyrwyddo Cymru.

Dywedon nhw hefyd nad yw VisitBritain yn hyrwyddo Cymru’n ddigonol wrth farchnata Prydain fel cyrchfan ar gyfer twristiaid.

Fodd bynnag, dywedodd prif weithredwr VisitBritain, Patricia Yates, eu bod “yn gweithio’n agos iawn gyda Chroeso Cymru i hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol” trwy ymgyrch GREAT Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mae gennym hanes cryf o gyflawni ar gyfer economi Cymru, gan gynhyrchu £34 miliwn ychwanegol mewn gwariant ymwelwyr tramor i Gymru yn 2019-20 yn unig o ganlyniad i’n gweithgaredd, sy’n cyfateb i elw ar fuddsoddiad o £21 am bob £1 a fuddsoddir ynom,” meddai.

“Mae VisitBritain yn hyrwyddo Cymru ar draws ei holl ymgyrchoedd marchnata byd-eang, i yrru ymweliadau a gwariant.

“Rydyn ni’n gweithio gyda’r fasnach deithio ryngwladol i sicrhau bod Cymru’n cael ei gwerthu’n rhyngwladol, gan wahodd busnesau Cymru eleni ar deithiau masnach i Tsieina, India ac UDA.”

Dywedodd eu bod nhw hefyd yn hybu Cymru trwy ddod â gweithredwyr teithiau rhyngwladol a’r cyfryngau ar ymweliadau a chefnogi busnesau twristiaeth Cymru i gyrraedd dosbarthwyr rhyngwladol.

“Byddwn yn astudio canfyddiadau’r Pwyllgor Materion Cymreig yn agos ac yn parhau i weithio gyda Chroeso Cymru i adeiladu ar ein partneriaeth,” meddai.

Llafur yn “trethu’r diwydiant twristiaeth i ebargofiant”

Wrth ymateb i’r pryderon dywedodd llefarydd Twristiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, Tom Giffard AS:

“Mae twristiaeth yn cyfrif am 1 ymhob 7 o swyddi yng Nghymru, ac eto nid yw Gweinidogion Llafur yn y Senedd yn gwneud llawer i dyfu neu hyd yn oed amddiffyn y sector hanfodol hwn o’n heconomi.

“Mae’r Llywodraeth Lafur yn benderfynol o drethu’r diwydiant twristiaeth i ebargofiant,” ychwanegodd Tom Giffard, gan ddweud bod y cynlluniau treth dwristiaeth yn “wenwynig” a rheoliadau gosod llety gwyliau 182 diwrnod yn “llethol”.

“Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn canslo cynlluniau treth dwristiaeth Llafur, yn gwneud Croeso Cymru yn annibynnol o’r llywodraeth, yn gwrthdroi gwaharddiad gwallgof Llafur ar adeiladu ffyrdd, ac yn buddsoddi mewn seilwaith fel y gall pobl deithio o gwmpas ein gwlad wych.”