Mae’r penderfyniad i beidio cyflwyno traethau yng Ngwynedd ar gyfer Cynllun y Faner Las wedi arwain at siom.

Mae’r cynllun yn arwydd o lendid a diogelwch, ac yn cael ei gyflwyno i draethau sy’n cael eu rheoli’n dda ac sydd â dŵr o safon uchel.

Mae un cynghorydd wedi cwestiynu pam nad oedd Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno’r un o’u traethau ar gyfer y cynllun, er iddyn nhw fod ymhlith y rhai “gorau yn y byd”.

Mae Cyngor Gwynedd wedi amddiffyn y penderfyniad, gan ddweud bod eu traethau’n dal i fod yn “lân a diogel” ac “mor boblogaidd ag erioed”.

‘Gofynion cynyddol’

Cafodd y mater ei godi gan Gwynfor Owen, Cynghorydd Harlech a Llanbedr, yn ystod cyfarfod llawn yn ddiweddar.

“Fel un sy’n cynrychioli ardaloedd efo dau o’r traethau gorau yn y byd, Harlech a Llandanwg, a chan nodi bod amryw o draethau eraill yn ein sir yn syrthio i’r un categori, dymunaf nodi fy siom na wnaeth y Cyngor gofrestru ar gyfer Baner Las i’r un o’n traethau,” meddai wrth siarad yn Siambr Dafydd Orwig yng Nghaernarfon.

“Ga i ofyn pam na wnaeth y Cyngor gais?”

Eglurodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi, nad yw Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo’u hunain yng nghynllun y Faner Las yn ystod dwy o’r tair blynedd ddiwethaf.

Mae’r cynllun yn golygu “gofynion cynyddol” ar awdurdodau lleol, ac roedd penderfyniad Gwynedd yn cyd-fynd ag Ynys Môn a Chonwy.

Ateb ysgrifenedig llawn

Eglurodd ateb ysgrifenedig fod gofynion ychwanegol i gymryd rhan hefyd “yn ddrud, yn feichus ac yn groes i drefniadau rheoli traethau sydd wedi’u hen sefydlu”.

“Mae’r Faner Las yn un achrediad yn unig sy’n gwerthuso traethau’n seiliedig ar amryw o feini prawf,” meddai.

“Efallai nad yw o reidrwydd yn brolio nodweddion rhagorol traethau Llandanwg a Harlech.”

“Yng Nghymru, mae Gwobrau Traethau Baner Las yn cael eu gweinyddu gan Cadwch Gymru’n Daclus,” meddai wedyn.

“Mae’n cynnwys proses flynyddol, a chaiff ceisiadau eu hasesu yn erbyn canllawiau a meini prawf penodol.

“Caiff canllawiau Gwobrau Traethau Baner Las eu hadolygu’n flynyddol, gyda gofynion cynyddol ar awdurdodau lleol.

“Yng Ngwynedd, caiff gweithrediadau rheoli traethau’r Cyngor eu cwblhau gan y Gwasanaeth Morwrol.

“Mae’r gwasanaeth yn paratoi asesiadau risg blynyddol ar gyfer traethau unigol – ac mae’r trefniadau rheoli traethau’n seiliedig ar fesurau lleddfu sydd wedi’u nodi o fewn yr asesiadau risg.

“Ar gyfer cyfnod o fwy nag ugain mlynedd, mae ceisiadau sydd wedi’u cyflwyno gan y Cyngor wedi’u cymeradwyo ar y sail yma.

“Fodd bynnag, mae canllawiau’r Faner Las yn gofyn bod asesiadau risg annibynnol yn ystyried agweddau penodol, ac yn yr ystyr yma dydy asesiadau risg y Cyngor ddim yn cael eu hystyried yn ddigonol.

“Caiff asesiadau risg y Cyngor eu cwblhau gan staff profiadol a chymwys sydd â dealltwriaeth fanwl o draethau unigol.

“Mae newidiadau diweddar i ganllawiau’r Wobr Baner Las wedi’u trafod ag awdurdodau lleol eraill yng ngogledd-orllewin Cymru.

“Mae pryderon wedi’u codi fod gofynion ychwanegol yn ddrud, yn feichus ac yn groes i drefniadau rheoli traethau sydd wedi’u hen sefydlu, a phenderfynwyd na fyddai cynghorau Gwynedd, Ynys Môn na Chonwy yn cyflwyno ceisiadau eleni.

“Dydy Cyngor Gwynedd ddim wedi dathlu’r Gwobrau Baner Las am ddwy o’r tair blynedd ddiwethaf, ac eto mae ein traethau wedi bod yn brysurach nag erioed.

“Mae’r Faner Las yn un achrediad yn unig sy’n gwerthuso traethau’n seiliedig ar amryw o feini prawf, ac efallai nad yw o reidrwydd yn brolio nodweddion rhagorol traethau Llandanwg a Harlech.

“Mae ein traethau mor lân, diogel a phoblogaidd ag y buon nhw erioed.

“Caiff ansawdd y dŵr ei fesur yn rheolaidd, gyda nifer o draethau’n ennill y safon uchaf, sef ‘Ardderchog’.

“Mae ein traethau’n parhau ymhlith y rhai gorau yng Nghymru, a byddan nhw’n parhau i ddenu miloedd o ymwelwyr eto yr haf yma.”