Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cysylltu â rhagor o deuluoedd i ddweud y gallai marwolaethau eu perthnasau fod wedi bod yn gysylltiedig â thriniaeth fasgwlaidd.

Daw hyn wedi i deuluoedd gymryd rhan mewn adolygiad y llynedd yn dilyn pryderon.

Roedd pedwar achos eisoes wedi cael eu hadrodd i’r crwner, a dywed y bwrdd iechyd eu bod nhw wedi bod yn agored â pherthnasau cleifion eraill, ond dydyn nhw ddim wedi cadarnhau sawl teulu.

Bu i adroddiad gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon yn Lloegr fis Ionawr y llynedd ddarganfod fod cleifion yn wynebu risg i’w diogelwch oherwydd methiannau wrth gadw cofnodion.

Awgrymodd wrth y bwrdd iechyd fod angen iddyn nhw ymchwilio’n llawn i ganfod beth ddigwyddodd i’r 47 claf roedd yr adroddiad yn canolbwyntio arnyn nhw.

‘Angen bod yn dryloyw’

Mae Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, wedi beirniadu’r bwrdd iechyd, gan ddweud bod y sefyllfa’n “cryfhau’r angen am ymchwiliad cyhoeddus”.

Dywed fod “angen bod yn dryloyw a sicrhau tegwch i’r teuluoedd sydd wedi eu heffeithio”.

Cafodd y pryderon hyn eu hadleisio gan Darren Millar, lefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros ogledd Cymru.

“Mae’r ffaith fod mwy o farwolaethau a mwy o gleifion wedi cael eu niweidio o ganlyniad i wasanaethau fasgwlaidd gwael nag a ddatgelwyd yn flaenorol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn sgandal llwyr,” meddai.

“Rhaid i’r bwrdd iechyd fod yn agored â phobol gogledd Cymru a’r awdurdodau am nifer y cleifion dan sylw.

“Mae cleifion, teuluoedd, a’u hanwyliaid yn haeddu gwybod faint o esgeulustod a niwed diangen mae pobol wedi’i ddioddef.

“Mae bellach yn hanfodol i’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch a’r heddlu ymchwilio i’r materion hyn i benderfynu a oes angen mynd i’r afael ag achos o esgeulustod troseddol.”

‘Cynnydd boddhaol’

Cafodd y gwasanaethau fasgwlaidd eu had-drefnu yn 2019, wrth iddyn nhw gael eu canoli yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

Pwrpas y gwasanaeth yw rhoi diagnosis ac i drin pobol sydd â phroblemau rhydwelïau, gwythiennau neu gylchrediad.

Maen nhw hefyd yn aml yn cael eu defnyddio gan gleifion sydd â phroblemau iechyd eraill, megis clefyd siwgr.

Mae’r gwasanaeth fasgwlaidd a’r bwrdd iechyd wedi wynebu beirniadaeth ers cryn amser bellach.

Fis Mawrth y llynedd, cafodd y gwasanaeth ei gategoreiddio fel un oedd “angen gwelliant sylweddol” o ganlyniad i bryderon am ddiogelwch y cleifion.

Ond fis diwethaf (Mehefin 29), disgrifiodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru’r gwasanaeth fel un oedd yn gwneud “cynnydd boddhaol.”

Er hynny, mae’r bwrdd iechyd wedi cyfaddef fod yna welliannau pellach i’w gwneud.

Mael golwg360 wedi gofyn i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am ymateb.