Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i gŵyn bod y Cynghorydd Steve Davies o Gyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Aberystwyth wedi torri’r Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr.

Yn ystod yr ymchwiliad, cyhoeddodd yr Ombwdsmon adroddiad interim i Banel Dyfarnu Cymru, yn argymell ei bod er budd y cyhoedd i’r cynghorydd gael ei wahardd yn syth o’i rôl fel cynghorydd ar y ddau awdurdod lleol, hyd nes y bydd ymchwiliad yr Ombwdsmon i’r gŵyn yn dod i ben.

Fe wnaeth tribiwnlys Achos Dros Dro ganfod fod tystiolaeth yn golygu ei bod yn ymddangos bod y cynghorydd wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad, a’i bod er budd y cyhoedd i’w atal am gyfnod o hyd at chwe mis, hyd nes canlyniad ymchwiliad yr Ombwdsmon.

Gan mai atgyfeiriad dros dro oedd hwn, does dim unrhyw ganfyddiadau o ffaith wedi’u gwneud ar hyn o bryd, a mater i Dribiwnlys Achos fydd hwn i’w benderfynu, pe bai’r Ombwdsmon yn penderfynu cyfeirio’r mater pan fydd ei hymchwiliad wedi dod i ben.

Os yw’r Ombwdsmon o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynghorydd gael ei atal dros dro ar unwaith, hyd nes y daw ei hymchwiliad i ben, gall gyfeirio’r mater.