Mae disgwyl i’r blaid unoliaethol asgell dde Vox chwarae rhan flaenllaw yng ngweinyddiaeth nesaf Sbaen.
Yn ôl y polau piniwn diweddaraf, gallai Vox a Phlaid y Bobol ennill mwyafrif ar y cyd.
Serch hynny, does dim disgwyl iddyn nhw ennill llawer iawn o dir yng Nghatalwnia, un o’r ardaloedd maen nhw’n canolbwyntio’n bennaf arnyn nhw fel rhan o’u rhaglen lywodraeth arfaethedig.
Daeth Vox yn fwy poblogaidd ledled Sbaen wrth iddyn nhw weithredu fel erlynwyr preifat yn erbyn y rhai fu’n flaenllaw yn y frwydr tros annibyniaeth i Gatalwnia yn 2019 pan gafodd nifer o arweinwyr blaenllaw’r mudiad annibyniaeth eu dedfrydu i garchar.
Mae Vox yn teimlo bod Llywodraeth Sbaen wedi bradychu trigolion Catalwnia.
Polisïau dadleuol
Ymhlith polisïau mawr Vox mae diwygio system addysg Catalwnia a Sbaen.
Maen nhw eisiau i’r grym dros y cwricwlwm ddychwelyd i Lywodraeth Sbaen, ac maen nhw’n ffafrio gwersi yn Sbaeneg yn hytrach na ieithoedd brodorol eraill, sy’n peryglu’r system drochi sydd ar waith yng Nghatalwnia.
Maen nhw hefyd yn awyddus i ailgyflwyno annog gwrthryfel fel trosedd, allai effeithio ar y cyn-arlywydd Carles Puigdemont, sydd ond yn wynebu cyhuddiad o gamddefnyddio arian cyhoeddus yn hytrach na’r cyhuddiad mwy difrifol, ond a allai wynebu’r cyhuddiad mwyaf difrifol pe bai’r gyfraith yn newid eto.
Maen nhw hefyd eisiau dileu’r weinyddiaeth gydraddoldeb a diwygio nifer o gyfreithiau yn y maes yma, gan gynnwys trais ar sail rhywedd, erthyliadau, y gyfraith yn ymwneud â chydsyniad rhywiol, a chyfreithiau’n ymwneud â phobol drawsryweddol gan gynnwys dileu arian sefydliadau LHDTC+, a rhaglenni newid hinsawdd.
Maen nhw hefyd yn addo alltudio mewnfudwyr sy’n byw dan amgylchiadau anarferol, a gostwng trethi.