Mae’r Senedd wedi pleidleisio o blaid sefydlu Pwyllgor Biliau Diwygio er mwyn craffu ar filiau sy’n ymwneud â diwygio’r Senedd.
Daeth y bleidlais yn ystod y cyfarfod llawn ddoe (dydd Mercher, Gorffennaf 12).
Gwnaed y cynnig yn ffurfiol gan Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a chafodd ei dderbyn heb wrthwynebiad.
Fodd bynnag, bu i Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar ogledd Cymru, wrthwynebu penodi aelod o’r Blaid Lafur yn gadeirydd y grŵp, gan ddweud ei fod yn teimlo bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cael eu “tangynrychioli”.
“Mae fy ngrŵp, fel y byddwch yn gwybod fel aelod o’r Pwyllgor Busnes, yn gwrthwynebu dyrannu’r Cadeirydd penodol hwn i’r Grŵp Llafur, ar sail nifer y cadeiryddion gafodd eu dyrannu eisoes gan y Senedd hon a’r Pwyllgor Busnes i’r grwpiau gwleidyddol yn y Senedd,” meddai.
“Credwn fod ein grŵp wedi’i dangynrychioli ac, ar y sail honno, byddwn yn gwrthwynebu’r eitem benodol hon heddiw.”
O ganlyniad, roedd pleidlais ar y mater a chafodd y cynnig i ddyrannu cadeirydd y pwyllgor i grŵp gwleidyddol arall ei dderbyn o 32 i 14.
Roedd pob un oedd wedi pleidleisio yn erbyn y cynnig yn aelodau o’r Ceidwadwyr Cymreig.
Pwy sydd ar y Pwyllgor?
Y Dirprwy Lywydd David Rees fydd cadeirydd y Pwyllgor, wedi iddo fe gael ei enwebu gan Aelodau Llafur o’r Senedd, sef Jack Sargeant a Sarah Murphy.
Er ei wrthwynebiad i’r cadeirydd, bydd Darren Millar hefyd yn rhan o’r pwyllgor, ynghyd â Heledd Fychan (Plaid Cymru) a Sarah Murphy (Llafur).
Cyfeiria diwygio’r Senedd at y cynigion i newid y Cyfansoddiad mewn ymgais i allu mynd i’r afael ag anghenion pobol Cymru yn well.
Ymysg y cynigion mae cynyddu nifer yr aelodau o 60 i 96, a chyflwyno cwota rhywedd, fyddai’n sicrhau cydbwysedd rhwng merched a dynion.
Yr awgrym yw fod angen i’r gwaith diwygio gael ei wneud erbyn etholiad nesaf y Senedd yn 2026.
Er mwyn cyflawni hyn, byddai’n rhaid cyflwyno Bil yn 2023 er mwyn i’r newidiadau ddod yn gyfraith a chaniatáu i’r gwaith i wneud y newidiadau hyn ddigwydd mewn da bryd.
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn dweud y bydd Bil ar wahân yn mynd i’r afael â’r broses o gyflwyno cwotâu rhywedd er mwyn “sicrhau y bydd y prif Fil mewn lle ac yn gweithredu’n llwyddiannus erbyn etholiad 2026”.