Bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £1m yng Nghronfa Trawsnewid Cerbydau Carbon Isel Ford er mwyn arloesi ym maes cerbydau gwyrdd.

Cafodd y gronfa ei sefydlu gan y Ford Motor Company yn 2020 gyda’r bwriad o fynd i’r afael â’r heriau technegol diwydiannol sy’n gysylltiedig â cherbydau carbon isel.

Mae’r heriau’n cynnwys storio ynni trydanol, moduron trydan, electroneg pŵer a’r cydrannau sy’n gyrru olwynion.

Mae’r gronfa eisoes wedi cael ei defnyddio er mwyn ariannu prosiect Deregallera yng Nghaerffili.

Bwriad y prosiect oedd dyfeisio modur amgen ar gyfer cerbydau trydan fyddai’n llai niweidiol i’r amgylchedd.

“Dyma brosiect i greu modur hynod effeithiol â throrym mawr, heb fagnetau parhaol, neu â llawer llai ohonyn nhw,” meddai Martin Boughtwood o Deregallera.

“Bydd hynny’n ychwanegu at y moduron a gwrthdroyddion perfformiad uchel rydym yn eu cynnig ac yn darparu cadwyn gyflenwi ddiogel amgen os daw’r cyflenwadau hyn yn rhy gostus neu o dan gyfyngiadau.”

Ymrwymiad sero net

Cychwynnodd y rownd ddiweddaraf o gyllido ddoe (dydd Mercher, Gorffennaf 12), a bydd yr arian yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau cyn diwedd 2024.

Dywed Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, fod hwn yn gam pwysig er mwyn cyrraedd yr “ymrwymiad uchelgeisiol i fod yn sero net erbyn 2050”.

“Ym mis Chwefror, lansiais ein Strategaeth Arloesi i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach,” meddai.

“Rwyf am weld economi sy’n arloesi i dyfu, lle mae sefydliadau’n cydweithio ac yn defnyddio technolegau newydd i greu atebion i heriau cymdeithas.

“Mae Cronfa Trawsnewid Cerbydau Carbon Isel Ford yn enghraifft o’n cymorth hyblyg i arloesedd.

“Mae’r gronfa eisoes wedi helpu wyth busnes yng Nghymru ac rwy’n awyddus i gynnig yr un cyfle i ragor.

“Dyma enghraifft wych o lywodraeth yn gweithio gyda diwydiant i greu swyddi gwyrdd newydd yn niwydiannau’r dyfodol.”

Yn gynharach yn y flwyddyn beirniadodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith “fethiannau lluosog” Llywodraeth Cymru i gyflawni eu haddewidion i gael mwy o gerbydau trydan ar y ffyrdd.

Daeth hyn wedi i’r Llywodraeth fethu â darparu’r seilwaith gwefru oedd ei angen ar Gymru.

Fodd bynnag, dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi croesawu “gwersi allweddol” yr adroddiad.