Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i godiad cyflog ar gyfer y sector cyhoeddus.
Daw hyn wedi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig sicrhau codiad cyflog o 5-7% ar gyfer gweithwyr y sector.
Dywed Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ei bod yn bryd i Lywodraeth Cymru ddilyn yr un trywydd.
“Mae’r newyddion hwn yn wych i swyddogion heddlu a swyddogion carchar sy’n gweithio’n galed yng Nghymru, gan y bydd Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn cynyddu eu cyflogau,” meddai.
“Nawr, mae’n hollbwysig i weinidogion Llafur yn y Senedd gyfateb y cynnig hwn ar gyfer y swyddi maen nhw’n atebol amdanyn nhw yng Nghymru, fel meddygon, nyrsys, ac athrawon.
“Rhaid i Lafur beidio â chaniatáu iddyn nhw fod yn brin o’u cymharu â’u cymheiriaid yng ngweddill y Deyrnas Unedig.”
‘Rhoi’r gorau i’r diffyg gweithredu’
Yn yr un modd, dywed Peter Fox, llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Cymreig, “nad oes rheswm pam na all Llafur gyflawni’r un peth”.
“Mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig wedi llwyddo i sicrhau’r codiad cyflog hwn heb droi at fenthyca ychwanegol na chodiadau treth,” meddai.
“Mae dirfawr angen y darbodusrwydd ariannol hwn yng Nghymru, lle mae’r Llywodraeth Lafur yn cwyno am gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, er gwaethaf cael £1.20 am bob £1 gaiff ei gwario yn Lloegr.
“Does dim rheswm pam na all Llafur gyflawni’r un peth yma yng Nghymru.
“Rhaid iddyn nhw roi’r gorau i’w diffyg gweithredu a sicrhau codiad cyflog cyfradd gyntaf i feddygon, nyrsys, ac athrawon yng Nghymru.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Byddwn yn parhau i gydweithio mewn partneriaeth ag undebau llafur yng Nghymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Mae ein cyllideb ar gyfer 2023-24 eisoes £900m yn is yn nhermau real na’r disgwyl adeg adolygiad gwariant 2021.
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau nad yw’r cyhoeddiad wedi’i gefnogi gan unrhyw wariant newydd.”
Cynyddu costau fisas
Dywed Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, fod y codiad cyflog fydd yn mynd i bocedi dros filiwn o weithwyr yn y Deyrnas Unedig yn “golygu gwneud penderfyniadau”.
Rhoddodd sicrwydd na fydd benthyciadau ychwanegol na chodi trethi yn digwydd o ganlyniad i’r codiad cyflog.
“Nid yw’n ymwneud â thoriadau, mae’n ymwneud â chanolbwyntio ar gyflogau gweithwyr y sector cyhoeddus yn hytrach na phethau eraill,” meddai.
Mynnodd y gallai wneud y newidiadau “heb effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau rheng flaen”.
Yn hytrach, dywedodd y byddai’r llywodraeth yn codi dros £1bn drwy “gynyddu’n sylweddol” y taliadau ar gyfer ymfudwyr sy’n gwneud cais am fisas wrth ddod i’r Deyrnas Unedig a’r ardoll maen nhw’n ei thalu i gael mynediad i’r Gwasanaeth Iechyd.