Mae dros 50 o sefydliadau wedi llofnodi llythyr agored yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar broblemau’n ymwneud â microblastigau.
Ymhlith y sefydliadau sydd wedi llofnodi’r llythyr mae Dŵr Cymru, Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched Cymru, ac Ymddiriedolaeth y Môr.
Cafodd y llythyr agored ei gyhoeddi heddiw (dydd Gwener, Gorffennaf 14) gan Sustainable Clothing and Textiles Cymru, sef clymblaid o elusennau, busnesau lleol ac addysgwyr.
Eu gobaith yw y bydd Llywodraeth Cymru yn dod â sefydliadau ac arbenigwyr at ei gilydd er mwyn llunio Cynllun Gweithredu ar ficroblastigau i Gymru.
Mae rhai o’r datrysiadau eraill posib yn cynnwys darparu mwy o addysg am ficroblastigau mewn ysgolion, a mynd i’r afael â llygredd microblastig yn y fan a’r lle.
Yr ateb yn “gymharol syml”
Mae Undeb Rhyngwladol Cadwraeth Natur yn amcangyfrif fod microffibrau plastig, sy’n cael eu rhyddhau wrth olchi dillad, yn cyfrif am oddeutu 35% o’r llygredd plastig cyfan mewn moroedd a chefnforoedd.
Mae tystiolaeth eu bod nhw’n wenwynig i fywyd morol, ac mae awgrym hefyd eu bod nhw’n niweidiol i fywyd tir, gan gynnwys pobol.
Yn ôl y Guardian, mae darnau o ficroblastigau wedi cael eu canfod yng ngwaed wyth ym mhob deg o bobol, ond dydy effeithiau hynny ddim yn hysbys hyd yma.
Dywed Tony Harrington, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd Dŵr Cymru, fod yr atebion i’r broblem yn “gymharol syml”.
“Rydym yn falch iawn o allu cefnogi’r fenter hon, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’n partneriaid i leihau’r llygredd gaiff ei achosi gan ficroblastigau,” meddai.
“Mae llawer o’r atebion yn gymharol syml ac eisoes yn cael eu mabwysiadu mewn mannau eraill.
“Rydym yn gobeithio y gellir gweithredu’r camau sydd eu hangen i leihau’r llygredd a achosir gan ficroblastigau yn gyflym yn eu ffynhonnell gan leihau’r costau a’r amser a gymerir i weithredu newid.”
‘Gweithredu ar frys’
Yn yr un modd, dywed Jill Rundle, Cadeirydd Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched Cymru, fod “angen gweithredu ar frys”.
“Mae aelodau Sefydliad y Merched yn poeni’n fawr am yr effaith y mae ffibrau microblastig yn ei chael ar fywyd morol ac effeithiau posibl y ffibrau sy’n dod i mewn i’r gadwyn fwyd,” meddai.
“Mewn ymchwil a gynhaliwyd gennym ni, canfuwyd bod cartrefi’r Deyrnas Unedig yn gwneud cymaint â 68 miliwn o lwythi o olchi’r wythnos, gan ryddhau o leiaf 9.4tn o ffibrau microblastig yr wythnos yn y Deyrnas Unedig.
“Mae angen gweithredu ar frys i atal y llanw o lygredd plastig sy’n niweidio ein hamgylchedd a’n bywyd gwyllt.”
Lansiodd Cyfeillion y Ddaear Cymru, sy’n aelod o Sustainable Clothing and Textiles Cymru, ddeiseb ar wefan deisebau’r Senedd ym mis Mai.
Roedden nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun gweithredu ar ficroblastigau.
Y gobaith yw y bydd y ddeiseb yn arwain at drafodaeth yn y Senedd.
‘Parhau i gynnal ymchwil’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod eisoes wedi cymryd camau i fynd i’r afael a’r broblem.
“Rydym eisoes wedi cyflwyno sawl darn o ddeddfwriaeth i atal llygredd plastig – mae hyn yn cynnwys gwaharddiadau ar ficrobelenni, y tâl am fagiau siopa untro a gwaharddiadau ar sawl cynnyrch plastig untro sy’n cael ei wasgaru’n gyffredin,” meddai.
“Mae microblastigau yn tarddu o ystod o wahanol ffynonellau, gan gynnwys gweithgareddau diwydiannol a domestig ac felly mae gennym nifer o strategaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi’u cynllunio i fynd i’r afael â’r broblem.
“Mae hwn yn faes gwyddoniaeth gymhleth ac esblygol ac felly rydym yn parhau i gynnal ymchwil a, lle bo’n briodol, i gymryd camau.”