Bydd Cymdeithas yr Iaith yn galw yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan am “setlo problem tai” Cymru.
Mae disgwyl i gannoedd o bobol orymdeithio ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol at stondin Llywodraeth Cymru, yn dilyn rali gan Gymdeithas yr Iaith yn galw am Ddeddf Eiddo.
Ymhlith y rhai fydd yn annerch rali “Nid yw Cymru ar Werth” am 2 o’r gloch ddydd Mercher, Awst 9 fydd Cynghorwyr Sir Gwynedd, Rhys Tudur ac Elin Hywel; cyn-ymgeisydd y Blaid Lafur yn yr etholaeth, Cian Ireland; cyn-Brif Weithredwr Cymdeithas Tai Grŵp Cynefin a’r gantores Catrin O’Neill o Siarter Cartrefi Cymru.
Bydd y rali’n dod i ben wrth stondin Llywodraeth Cymru, lle bydd galwad am gyflwyno Deddf Eiddo yn y tymor seneddol hwn.
‘Mae amser yn mynd yn brin’
“Mae’r Llywodraeth wedi cytuno i gymryd camau i reoli gormodedd ail gartrefi a llety gwyliau, ond dyn nhw ddim hyd yma wedi trin gwraidd y broblem – sef bod y farchnad agored yn gweld tai fel asedau masnachol, nid fel cartrefi i gynnal pobol yn eu cymunedau,” meddai Jeff Smith, cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith, ar ran Gweithgor Nid yw Cymru ar Werth y Gymdeithas.
“Addawyd yn ôl yn 2021 Bapur Gwyn ar Ddeddf Eiddo i reoli’r farchnad dai, a byddwn yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno Ddeddf Eiddo’n fuan wedyn yn ystod y tymor seneddol hwn.
“Mae amser yn mynd yn brin, ac mae’n bryd setlo’r broblem dai wedi’r degawdau o ymgyrchu.”
Yn y cyfamser, mae Ffred Ffransis, sy’n aelod o weithgor Nid yw Cymru Ar Werth, wedi cyhoeddi ei benderfyniad i ymprydio am 75 awr rhwng dydd Sul, Awst 6 a dydd Mercher, Awst 9.
Bydd yn cynnal gwyliadwriaeth tu allan i stondin y Llywodraeth ar y Maes, ac yn rhannu taflenni yn annog y cyhoedd i ymuno â’r ymgyrch.
“Mae’r Gymdeithas wedi bod yn cynnal ymgyrch “Nid yw Cymru ar Werth” ers degawdau ac enillwyd llawer o gonsesiynau,” meddai.
“Ond mae pwysau’r farchnad dai wedi cynyddu, ac mae pobol ifainc yn cael eu gorfodi allan o’u cymunedau gan nad ydynt yn gallu cystadlu yn ariannol gyda’r rhai sy’n symud o ardaloedd mwy cyfoethog.
“Mae’n broblem ledled Cymru, ac mae ein cymunedau Cymraeg yn cael eu chwalu o flaen ein llygaid.
“Daeth yn bryd setlo’r broblem gyda deddfwriaeth radical.
“Gall Llywodraeth Cymru osod esiampl i’r byd trwy gyflwyno Deddf fydd yn creu cymunedau cynaliadwy trwy sefydlu mai prif ddiben polisïau tai yw darparu cartrefi i bobol yn eu cymunedau a sefydlu marchnad leol ar gyfer mwyafrif tai.
“Nid gweithred yn erbyn y Llywodraeth fel y cyfryw fydd fy ympryd, ond ymgais i ddangos i’n pobol mor ddifrifol yw’r sefyllfa a’u hannog i ymuno yn yr ymgyrch.”