Mae ymgyrch newydd wedi cael ei lansio yng Nghymru er mwyn annog dynion ifanc i feddwl am drais a cham-drin menywod yn y cartref.
Mae Llywodraeth Cymru’n gobeithio y bydd eu hymgyrch newydd, sydd wedi ei hanelu at ddynion rhwng 18 a 34 oed, yn helpu i fynd i’r afael ag argyfwng gwrywdod gwenwynig (toxic masculinity).
Dywed Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, mai nod yr ymgyrch yw “gwneud Cymru’r lle mwyaf diogel yn y byd i fenywod”.
Cafodd yr ymgyrch ei lansio gan Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, mewn campfa focsio yng Nghasnewydd, wrth iddi ddweud bod “ymyrraeth gynnar ac atal yn hanfodol”.
“Rhaid i ni addysgu dynion a bechgyn ifanc am berthnasoedd iach, a sicrhau ein bod ni’n rhoi’r cyfrifoldeb arnyn nhw i atal trais yn erbyn menywod a merched,” meddai.
“Mae Sound yno i ddechrau hunanfyfyrio trwy dynnu sylw at ymddygiad niweidiol fel rheolaeth orfodol (coercive control), gan helpu dynion i adnabod yr ymddygiadau hyn ynddyn nhw eu hunain ac eraill, ac i gael cyngor cadarn, dibynadwy ar sut i fynd i’r afael â nhw.”
Annog trafodaeth
Fis diwethaf, cynhaliodd y Llywodraeth arolwg o 505 o ddynion rhwng 18 a 54 oed yng Nghymru, er mwyn deall eu safbwyntiau ar faterion yn ymwneud â rhywedd.
Yn ôl yr arolwg, mae 75% o ddynion yn credu bod Cymru yn lle diogel i fod yn fenyw, tra bod 37% yn credu bod digon wedi cael ei wneud er mwyn ennill cydraddoldeb.
Yn yr un modd, roedd 43% yn credu bod gwrywdod traddodiadol dan fygythiad, tra bod 64% yn tanamcangyfrif pa mor gyffredin yw trais yn erbyn menywod.
Mae’r ymgyrch yn annog dynion ifanc i ddefnyddio tri dull er mwyn dysgu mwy am faterion yn ymwneud â rhywedd.
Y cyngor yw i gael trafodaethau gyda dynion eraill, ceisio mewnwelediadau dibynadwy, ac annog ffrindiau i fod yn agored tra hefyd yn eu cefnogi a’u herio nhw.
Cafodd yr ymgyrch ei lunio gyda chymorth Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Caerdydd, a bydd yr ymgyrch yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol er mwyn lledaenu’r neges.
“Wrth weithio gyda dynion ifanc o ddydd i ddydd, dw i’n gweld yr angen am y math yma o ymgyrch – mae’n arbennig o hanfodol i’r bechgyn ar ein cyrsiau sydd newydd gyrraedd oedolaeth,” meddai Matthew Pugh o’r Sefydliad Cymunedol.