Mae cynghorydd tref yng Nghaernarfon wedi codi pryderon am yrru’n beryglus yn Tesco Caernarfon, ac yn dweud iddi dderbyn nifer o gwynion am y sefyllfa.

Yn ôl Anna Jane Evans, sy’n cynrychioli ward yr Hendre yn enw Plaid Cymru, mae pobol yn cwrdd yn y maes parcio ac yn gyrru’n wyllt o amgylch y dref.

Wrth siarad â golwg360, dywed nad yw’r archfarchnad yn gwneud “affliw o ddim byd ynglŷn â’r peth”.

Gan nad yw Tesco yn ffonio’r heddlu, mae Anna Jane Evans wedi gwneud hynny ond mae hi’n dweud nad oes gan yr heddlu “yr adnoddau i ymateb i bob galwad”.

‘Problem ers misoedd’

“Mae yna broblem wedi bod ers rhai misoedd erbyn hyn, ambell i noson lle mae yna griwiau o bobol, dw i ddim yn siŵr pa mor ifanc ydyn nhw,” meddai.

“Dydw i ddim eisiau dweud mai pobol ifanc ydyn nhw, oherwydd dydw i ddim yn siŵr faint oed ydyn nhw.

“Mae yna griwiau o bobol yn cwrdd ben pellaf maes parcio Tesco, ac wedyn maen nhw’n mynd rownd a rownd y dref efo exhausts mawr swnllyd, yn gwneud coblyn o lot o sŵn, a byswn i’n tybio yn peryglu pobol, â dweud y gwir.

“Dydy Tesco ddim yn gwneud affliw o ddim byd ynglŷn â’r peth.

“Does ganddyn nhw ddim un camera yn y maes parcio i ddiogelu eu hunain, eu staff na’u cwsmeriaid.

“Mae ganddyn nhw barriers nad ydyn nhw byth yn eu cau pan maen nhw’n cau’r siop am 10 o’r gloch y nos neu pryd bynnag maen nhw’n cau.

“Dydyn nhw byth yn galw’r heddlu nac yn gwneud dim byd os ydyn nhw’n gwybod bod y criwiau yna yno.

“Rwy’ wedi ffonio’r heddlu.

“Mae’r heddlu yn y diwedd, hwyrach, yn troi fyny.

“Rwy’n ymwybodol does gan yr heddlu ddim yr adnoddau i ymateb i bob galwad chwaith.

“Mae yna nifer o gwynion ynglŷn â hynny wedi bod dros y misoedd diwethaf yma.”