Mae Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, yn credu mai wythnos waith pedwar diwrnod yw’r ffordd ymlaen er mwyn cynyddu cynhyrchiant.
Wrth siarad â golwg360, dywed fod “tystiolaeth glir” fod pobol yn rhoi mwy i mewn i’w gwaith wrth weithio am bedwar diwrnod a chael eu talu am bump, o gymharu â gweithio a chael eu talu am bum niwrnod.
“Mae yna fwy o amser i bobol ymlacio ac i wneud yn siŵr bod pobol yn gallu gofalu am eu hiechyd meddwl, oherwydd gobeithio y basen nhw o dan lai o straen,” meddai.
Mewn arolwg, dywedodd 75% o weithwyr y Deyrnas Unedig y byddai eu boddhad swydd yn gwella gydag wythnos waith pedwar diwrnod.
Ond roedd 40% yn poeni y gallai hynny ymestyn yr amser sydd ei angen i fodloni terfynau amser prosiectau.
Yn ddiweddar, roedd cyngor yng Nghaergrawnt dan arweiniad y Democratiaid Rhyddfrydol ymysg y cyntaf i dreialu’r broses.
“Wnaethon nhw ddangos ei fod o’n cael effaith fawr ar bobol sy’n gweithio ar eu cyfer nhw, yn enwedig o ran cael pobol i eisiau aros yn gweithio gyda’r cyngor,” meddai Jane Dodds.
Fodd bynnag, er iddyn nhw weld buddion yr wythnos waith fyrrach, gofynnodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol Lee Rowley iddyn nhw “ddod â’r arbrawf i ben ar unwaith” tros bryderon ariannol.
Heriau cefn gwlad
Er hynny, creda Jane Dodds y byddai’r cynllun yn fuddiol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel yr un mae hi’n ei chynrychioli yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.
“Mae gennym ni sialens fawr, yn enwedig mewn llefydd gwledig, ein bod ni ddim yn gallu cael pobol i mewn i weithio mewn gwasanaethau iechyd neu ofal, ac felly buasai’n help mawr, dw i’n meddwl,” meddai.
Dywed ei bod hi am barhau i ganolbwyntio ar wella argaeledd swyddi, tai a chyfleoedd yn y rhanbarth.
“Rhaid i ni gael mwy o drafnidiaeth gyhoeddus sy’n rhad ac yn gyfleus i bobol, yn enwedig os dydyn ni ddim am adeiladu ffyrdd,” meddai.
“Hefyd, mae angen i ni edrych ar y cyfleoedd i fusnesau dros y rhanbarth – bach a mawr.
“Rhaid i ni gael pobol ifanc i aros yn yr ardal, a chael tai a chyfleoedd i wneud yn siŵr eu bod nhw’n cael hyfforddiant, ac yn y blaen.”
Ymateb cymysg yn y Senedd
Fis Ionawr eleni, argymhellodd Pwyllgor Deisebau’r Senedd y dylai Llywodraeth Cymru dreialu peilot wythnos pedwar diwrnod.
Fis Mai, roedd dadl ar y pwnc yn y Senedd, lle dywedodd Jack Sargeant, yr Aelod Llafur o’r Senedd, fod tystiolaeth yn y Deyrnas Unedig y byddai wythnos waith fyrrach yn fuddiol.
“Y ffaith amlwg oedd fod wythnos pedwar diwrnod wedi cael effaith gadarnhaol ar gynhyrchiant,” meddai.
“Mae llesiant pobol Cymru bob amser yn – a dylai fod – yn flaenoriaeth i ni fel Aelodau o’r Senedd.”
“Mae hwn yn gam beiddgar, ond yn un na ddylem ei ofni.
“Mae byd gwaith yn newid, ac er bod newid weithiau’n anodd nid yw ei fod yn galed yn rheswm i beidio â’i wneud.”
Yn yr un modd, dywed Luke Fletcher, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, na ddylai wythnos waith fyrrach olygu gostyngiad mewn cyflog.
Dywed ei bod yn bwysig ailystyried patrymau gwaith wrth i ffyrdd o weithio newid.
Ond gwethwyneba Joel James o’r Ceidwadwyr Cymreig, gan ddweud ei bod yn annheg i weithwyr sector preifat.
“Pe bai wythnos waith pedwar diwrnod yn cael ei gweithredu heb doriad mewn cyflog yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, byddai’n godiad cyflog o 20% i draean o’r boblogaeth waith yng Nghymru ar draul gweithwyr y sector preifat,” meddai.