Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi sefydlu’r ganolfan argyfwng iechyd meddwl gyntaf ar gyfer pobol ifanc Cymru yng Nghaerfyrddin.

Y bwriad yw cynnig ffordd gyflymach o helpu’r rheiny sy’n dioddef â’u hiechyd meddwl, gan na fydd yn rhaid i blant a phobol ifanc wynebu arhosiadau hir mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ragor.

Daw’r ganolfan iechyd meddwl fel rhan o Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, a bu Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, yn ymweld â’r safle.

Dywed y bydd y gwasanaeth newydd ar gael 24 awr y dydd, bob diwrnod o’r wythnos, er mwyn cynnig cymorth i’r rheiny sydd ei angen fwyaf.

‘Sicrhau man diogel’

“Bydd yn sicrhau man diogel i blant a phobol ifanc sydd angen cymorth brys ar gyfer eu hiechyd meddwl, ac a fyddai fel arall wedi gorfod mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys neu i wardiau iechyd meddwl prysur,” meddai Lynne Neagle.

“Bydd y gwasanaeth hwn yn amhrisiadwy i’r rheiny sydd ei angen fwyaf ac sydd fwyaf agored i niwed.

“Rwy’n falch iawn fod pobol ifanc wedi bod yn rhan o’r gwaith i ddatblygu’r ganolfan.”

Daw’r gwasanaeth fel rhan o ymdrechion i drawsnewid sut mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ymateb i faterion iechyd meddwl brys.

“Mae’r prosiect hwn yn mynd law yn llaw â lansiad diweddar y llinell gymorth ‘111 pwyso 2’ i gael cymorth iechyd meddwl brys a’r gwasanaeth cludo sy’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth ag Ambiwlans Sant Ioan,” meddai.

“Byddan nhw hefyd o gymorth i liniaru’r pwysau ar ein gwasanaethau brys.”

Un arall fu’n ymweld â’r safle yw Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd ac Aelod Dynodedig.

Dywed y bydd y prosiect yn “sicrhau bod cymorth ar gael i berson ifanc pan fydd ei angen fwyaf, a hynny yn yr amgylchedd cywir”.

“Mae’r ddarpariaeth hon yn cynnig model enghreifftiol o gymorth argyfwng sydd wedi’i gysylltu â’i gilydd yn well,” meddai.

“Mae’n galonogol iawn, hyd yn oed o fewn cyfnod byr o amser, ein bod eisoes yn cyflawni’r ymrwymiad i agor canolfannau hanfodol fel yr un yma yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio.

“Edrychaf ymlaen at weld yr arferion gorau hyn yn ymledu ar draws Cymru.”

Mwy ar y gweill

Mae £31.8m wedi cael ei fuddsoddi i ddatblygu canolfannau tebyg o dan fyrddau iechyd eraill Cymru hefyd.

Mae Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi croesawu’r ganolfan newydd yng Nghaerfyrddin.

“Mae’r Hwb arloesol hwn yn wasanaeth newydd a fydd yn darparu cyfleuster pwrpasol ddydd a nos ac yn ddewis amgen i dderbyn cleifion i’r ysbyty,” meddai.

“Mae’n cynnig man diogel i blant a phobol ifanc sydd mewn argyfwng ac a fyddai fel arall yn gorfod cael eu derbyn i ofal brys ac argyfwng neu ward iechyd meddwl.