“Mae’r rhyddid gymaint yn well” yn y system gofal iechyd yng Nghymru nag yn Ne Affrica, yn ôl un sydd wedi cael blas ar y maes yn y ddwy wlad.
Mae Lorraine van Veerem, sy’n 50 oed, yn hanu o Transkei ond mae hi bellach wedi ymgartrefu yng ngogledd Cymru ac yn gweithio efo pobol oedrannus mewn cartref gofal.
Mae hi’n briod â dyn o Loegr, lle buon nhw’n byw am 23 o flynyddoedd cyn symud i Gymru, ac mae ganddyn nhw dri o feibion.
Yn Ne Affrica, roedd y cwpl yn rhedeg salon ond ers iddyn nhw fyw yng ngwledydd Prydain mae hi’n gweithio ym maes gofal iechyd ac yn rhedeg gweithgareddau gyda phobol oedrannus.
Dywed fod gan bobol hŷn, a phobol yn gyffredinol o ran hynny, fwy o ryddid yma nag sydd ganddyn nhw yn ei mamwlad.
Oherwydd rhesymau diogelwch, mae pawb yn teithio i bob man mewn ceir yn ei thref enedigol yn Ne Affrica.
Mae hi wedi llwyr ymgartrefu yma, meddai, ac wedi syrthio mewn cariad â byd natur Cymru.
‘Agoriad llygad’
Ar ôl byw yn Ne Affrica, roedd dod i Gymru’n “agoriad llygad” i Lorraine van Veerem.
“Os dw i’n edrych ar fywyd fy nain er enghraifft, dydyn nhw ddim efo’r rhyddid fel yn fan hyn,” meddai wrth golwg360.
“Hyd yn oed os byddai rhaid i ni fynd â’n preswylwyr allan, neu mae gennym un sy’n gallu mynd allan ar ei ben ei hun, byddai yn eithaf sâff i wneud hynny.
“O le dw i’n dod, ti’n methu mynd allan ar moped bach.
“Mae’n wahanol iawn yn y ffordd yna [yn Ne Affrica], dydy o ddim yn saff.
“Ti ddim yn gweld hynna yn Ne Affrica.
“Sut alla i ddweud hyn heb fynd yn wleidyddol? Mae o jyst yn peidio cael y rhyddid.
“Os wyt ti eisiau mynd â dy blant i’r parc, ti’n methu cerdded yna. Yn fan’na, ti’n dreifio i bob man.
“Dydy o ddim fel yn fan hyn.
“Mae Cymru i mi fel adref, mae’r rhyddid gymaint yn well.
“Mae llefydd doeddwn i ddim yn gwybod sy’n bodoli.
“Mae bosib mynd allan a gwneud pethau am ddim, mae eich mynyddoedd a ffrydiau a bob dim am ddim.
“Mae’n agoriad llygaid.”
Cariad a boddhad
Ar ôl cael gyrfa mewn gofal, aeth Lorraine van Veerem yn ei blaen i wneud gweithgareddau gyda thrigolion mewn cartref gofal.
Gyda chyflog pobol sy’n gweithio yn y sector gofal yn bwnc llosg ar hyn o bryd, mae hi’n cytuno nad yw’r tâl yn uchel, ond mae hi’n cael “boddhad” o wneud y gwaith mae’n ei garu.
“Wnes i ddim gwneud gwaith gofal yn Ne Affrica,” meddai.
“Gwnes i waith gofal yn Lloegr, ac yna yng Nghymru.
“Cynigodd fy rheolwr swydd i mi yn gwneud gweithgareddau.
“Mae’n rhoi boddhad.
“Rydym yn mynd i nofio, yn chwarae gemau a dawnsio, yn gwneud ewinedd
“Mae llawer o waith lles, boreau coffi a garddio.
“Mae gan y preswyliaid wahanol lefelau o anghenion; rydych yn cwrdd â’u hanghenion.
“Mae gofalwyr yn gweithio oriau hir iawn, ond mae rhaid i chi gael cariad am y gwaith.
“Ti ddim yn ei wneud am yr arian, oherwydd dydyn ni ddim yn cael ein talu yn dda o gwbl, mae angen cariad dwfn am y gwaith.
“Rydych chi’n gwybod pan ydych yn mynd i gysgu yn y nos ac yn edrych ar eich dydd, a meddwl eich bod wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun.
“Rwy’n meddwl, i fi, dyna sy’n rhoi y boddhad mwyaf, y bobol yn gwenu ar ddiwedd y dydd.
“Hefyd, efo nhw sydd efo demetia, pan mae nhw’n fy adnabod mae hynny’n rhoi boddhad mawr.”