Mae pobol ag anableddau wedi cael eu gadael i lawr yn sgil yr argyfwng costau byw, yn ôl adroddiad gafodd ei lansio’r wythnos hon.
Mae’r adroddiad Barely Surviving gan Anabledd Cymru yn dweud bod diffyg cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn golygu bod pobol ag anableddau’n gorfod “dioddef ar eu pen eu hunain”.
Dywed Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru, nad oes cymorth penodol wedi’i gynnig i’r rheiny sydd ag anableddau yn sgil yr argyfwng costau byw.
“Er bod llawer o gefnogaeth gyffredinol wedi bod gyda thaliadau am filiau ynni a’r math yna o beth, ychydig iawn sydd wedi’i dargedu at bobol anabl, er gwaethaf y ffaith fod pobol anabl yn wynebu costau uwch o ran gwariant sy’n ymwneud ag anabledd,” meddai.
“Hefyd, mae pobol anabl yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi.
“Mae’r cyfuniad yna o ffactorau yn rywbeth rydyn ni’n teimlo sy’n cael ei anwybyddu’n llwyr gan lywodraethau.
“Mae’r adroddiad yn ffordd bwysig i ni dynnu sylw at hynny, a’i ddefnyddio fel sbardun i weithio gyda llywodraethau a rhanddeiliaid eraill i fynd i’r afael â’r materion hyn.”
‘Angen newidiadau radical’
Dywed Rhian Davies ei bod hi eisiau gweld “newidiadau radical” yn cael eu gwneud.
Ymysg rhybuddion yr adroddiad mae’r argyfwng iechyd meddwl parhaol sy’n wynebu’r rheiny ag anableddau.
Dywedodd un ymatebydd eu bod nhw wedi gweld eu gorbryder ac asthma yn gwaethygu, gan nad oedden nhw’n gallu cynhesu eu cartref.
Yn ogystal, dywedodd sawl un eu bod nhw wedi ystyried hunanladdiad o ganlyniad i drafferthion ariannol.
Roedd yn rhaid i 53 o’r 74 atebodd yr arolwg leihau eu gwariant ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan eu gadael nhw’n teimlo’n “gynyddol unig”.
Ymysg awgrymiadau’r adroddiad mae galwad ar i’r taliad annibyniaeth bersonol [PIP] gael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban.
Maen nhw’n galw ar reoleiddwyr fel Ofgem ac Ofcom i sicrhau nad yw pobol anabl yn talu gormod am wasanaethau bob dydd.
Mae awgrym hefyd fod o leiaf un sefydliad ar gyfer pobol ag anableddau ar gael o dan bob awdurdod lleol yng Nghymru.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd taliad anabledd ychwanegol o £150 yn cael ei dalu yn ystod yr haf ar y cyd â’r taliadau costau byw arferol.