Bydd gwaith hanfodol yn dechrau rhwng cyffyrdd 47 a 49 ar yr M4 fis Awst, ac yn parhau tan fis Rhagfyr.
Yn ogystal, bydd gwyriadau rhwng cyffyrdd 24 a 28 ar ochr ddwyreiniol twnelau Bryn-glas ym mis Medi.
O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru yn cynghori modurwyr i gynllunio ymlaen llaw cyn teithio ar y ddwy ran yma o’r draffordd.
Mae’r gwaith yn ymwneud â chynnal a chadw hanfodol er mwyn osgoi’r angen am unrhyw waith atgyweirio brys, trwy sicrhau cydnerthedd hirdymor y rhwydwaith ffyrdd.
Bydd hyn yn cynnwys gosod arwynebedd newydd, ailosod yr arwynebedd sy’n dal dŵr, a gosod uniadau pont newydd ar gyfer nifer o ddeciau pontydd.
Bydd y cynllun rheoli traffig rhwng cyffyrdd 47 a 49 yn newid gyda thraffig yn llifo mewn gwrthlif, gan ddefnyddio’r llain galed, o ddechrau Medi hyd at ganol Tachwedd.
Yn ogystal, caiff terfynau cyflymder is gorfodol eu gweithredu er mwyn diogelu gyrwyr a’r gweithwyr sy’n cyflawni’r cynllun.
Bydd cerbytffyrdd (carriageways) yn cael eu cau yn llawn rhwng cyffyrdd 24 a 28 dros bedwar penwythnos ac wyth noson wrth i gynllun gael ei roi ar waith.
Mae’n bosib y bydd hyn cael ei leihau i ddau benwythnos ac wyth noson, yn dibynnu ar y tywydd.
Fydd y gerbytffordd tua’r dwyrain a’r gerbytffordd tua’r gorllewin ddim yn cael eu cau ar yr un pryd.
Mae’r gwaith yn digwydd yn ystod cyfnod yr haf i leihau’r tebygolrwydd o oedi i’r gwaith yn sgil tywydd garw.
Bydd y manylion llawn yn cael eu cyhoeddi ar wefan Traffig Cymru.