Mae’r newyddion y gallai campws Coleg Sir Gâr yn Rhydaman gau yn “drychinebus”, yn ôl cyn-Arweinydd Plaid Cymru.
Mewn llythyr at Adam Price, dywed Jeremy Miles, Gweinidog Addysg Cymru, fod y Llywodraeth yn cefnogi cynlluniau ar gyfer buddsoddi yn y campws ym Mhibwrlwyd yng Nghaerfyrddin, yn ôl y South Wales Guardian.
Byddai’r cynlluniau’n arwain at gau’r campws yn Rhydaman.
Dywed Coleg Sir Gâr eu bod nhw’n “gweithio’n agos” gyda Llywodraeth Cymru i gynllunio datblygu campws o safon fyd-eang “sy’n addo dyrchafu profiad y dysgwr, sicrhau sefydlogrwydd ariannol yn y dyfodol, a chyfrannu at ffyniant economaidd Sir Gaerfyrddin”.
Byddai’r fenter yn uno campysau Pibwrlwyd, Rhydaman a Ffynnon Job ym Mhibwrlwyd, meddai’r Coleg.
Yn ei lythyr at Adam Price, dywed Jeremy Miles bod y cyfleusterau ar gampws Rhydaman “mewn cyflwr gwael neu wael iawn ar y cyfan”, “yn gostus i’w cynnal” ac yn “aneffeithlon”.
‘Pryder sylweddol’
Mae’r datblygiad yn “newyddion trychinebus” i’r dref, medd Adam Price, yr Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
I fynegi ei wrthwynebiad, mae Adam Price wedi sefydlu deiseb yn galw am beidio cau’r campws.
“Mae hyn wedi achosi pryder sylweddol yn y dref a’r cymunedau cyfagos, a fydd yn colli sefydliad allweddol os bydd y cynlluniau hyn yn mynd yn eu blaen,” medd y ddeiseb.
“Mae’r coleg wedi bod yn y dref ers bron i 100 mlynedd ac wedi goroesi sawl cyfnod o galedi, byddai ei gau nawr yn ergyd drom i genedlaethau’r dyfodol Dyffryn Aman.”
‘Y dref ddim yn elwa’
Fodd bynnag, dywed perchennog siop lyfrau yn y dref mai ychydig o gysylltiad sydd rhwng y dref a’r Coleg.
“Yn siarad fel siop lyfrau sydd wedi bod yma ers ugain mlynedd, fyddai cau y campws yn y dref yn cael dim gwahaniaeth o gwbl ar fy musnes,” meddai Tim Savage, perchennog College Street Books yn Rhydaman, wrth golwg360.
“Dw i’n gweld dim myfyrwyr. Mae plant o oed ysgol a myfyrwyr addysg bellach yn prynu’u holl lyfrau ar-lein, hyd y gwn i.
“Dim ond ychydig o’r bobol ifanc yn y campws, er nad yw e ond tua hanner milltir tu allan, sy’n dod mewn i’r dref i ddefnyddio’r cyfleusterau.
“Mae trefi yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig fel arfer yn cael eu bywiogi a’u cyfoethogi gan egni’r bobol ifanc sy’n astudio yno.
“O fy mhrofiad i, o dros ugain mlynedd, dyw Rhydaman ddim yn elwa ar ddim o’r egni a’r brwdfrydedd yna.
“Mae cyfle’n cael ei fethu, i’r dref, y coleg a chorff y myfyrwyr elwa oddi wrth ei gilydd.”
‘Campws o safon fyd-eang’
Yn ôl y South Wales Guardian, yn ei lythyr mae Jeremy Miles yn dweud bod y Coleg yn dweud y bydd cefnogaeth i fyfyrwyr a staff y coleg.
Dywed llefarydd ar ran Coleg Sir Gâr fod y campws arfaethedig yn “cynrychioli cam ymlaen” at addysg o’r ansawdd uchaf.
“Mae Coleg Sir Gâr yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i gynllunio datblygu campws o safon fyd-eang sy’n addo dyrchafu profiad y dysgwr, sicrhau sefydlogrwydd ariannol yn y dyfodol, a chyfrannu at ffyniant economaidd Sir Gaerfyrddin,” meddai.
“Mae’r datblygiad campws arfaethedig hwn yn cynrychioli cam ymlaen yn ein gweledigaeth i gynnig addysg a hyfforddiant galwedigaethol o’r ansawdd uchaf sy’n arwain y diwydiant.
“Bydd y fenter hon yn uno’n strategol y campysau presennol ym Mhibwrlwyd, Rhydaman a Ffynnon Job, er mwyn darparu amgylchedd dysgu cynaliadwy, cyfoes sy’n cael ei ysgogi gan dechnoleg.
“Yn ychwanegol, bydd hyn yn ein galluogi i fynd i’r afael â heriau presennol ystâd sy’n heneiddio.
“Er y gall hyn arwain at gau rhai campysau, rydym am sicrhau ein cymuned bod y newidiadau hyn yn cael eu hystyried yn ofalus ac yn cyd-fynd â’r genhadaeth genedlaethol i sicrhau bod addysg ôl-16 yn ffynnu ac yn llwyddo ar gyfer economi Cymru.
“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio wrth gyflawni’r nodau hyn, ac edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda’n budd-ddeiliaid ar hyd y daith gyffrous hon.
“Gyda’n gilydd gallwn sicrhau bod Coleg Sir Gâr yn darparu cyfleuster cydlynol, bywiog, a heb ei ail yng Nghaerfyrddin (Pibwrlwyd) sy’n addo dysgu ysbrydoledig mewn amgylchedd heb ei debyg.”