Croeso i gyfres newydd sy’n cael cip ar gartrefi rhai o wynebau adnabyddus Cymru. Y cyflwynydd tywydd ac awdur Alex Humphreys sy’n ein tywys o gwmpas ei chartref y tro yma. Mae hi’n dod o Laneurgain yn Sir y Fflint yn wreiddiol a bellach yn byw yng Nghaerdydd…
Dw i’n byw mewn tŷ bach teras yn Nhreganna yng Nghaerdydd. Wnes i ddewis yr ardal yma achos dydy o ddim yn rhy bell o’r gwaith – BBC Cymru – ond hefyd yn ardal eithaf tawel gyda pharciau’n agos, felly dydy o ddim yn teimlo fel fy mod i mewn dinas. Mae fy nghyfnither yn byw’n agos, ac un o fy ffrindiau gorau o’r ysgol hefyd – ac mae ‘na lot o Gymry Cymraeg o gwmpas, felly mae ‘na gymuned neis yma.
Dw i ‘di bod yn y cartref yma ers 2018. Ar ôl byw mewn fflat am flynyddoedd, roedd o’n neis i brynu tŷ fy hun a chael mwy o le.
Dw i wedi gwneud bron dim heblaw am beintio a phapuro. Dw i’n hoffi lliw, ac felly dros y cyfnod clo mi nes i beintio 3 ‘feature wall’ a phapuro’r stafell ‘molchi dan y grisiau. Mi wnes i hefyd brynu lot o bethau i’r tŷ adeg yma (ella gormod!)… ond doedd dim lot o bethau eraill i wneud, nagoedd!
Dw i wedi troi fy ‘stafell sbâr i mewn i ‘stafell gerdd. Mae’n le llawn lliw lle dw i’n dod i ymlacio a chwarae cerddoriaeth. Mae nifer yn gwybod bod chwarae gemau cyfrifiadurol yn un o fy hobïau (dw i’n siarad am gemau’n aml ar Radio Cymru, ac wedi sgwennu llyfr ar y pwnc), ond dw i hefyd yn gerddor, a dyma le dw i’n dod i chwarae’r piano, canu ac ymarfer fy nghornet.
Ar ôl diwrnod prysur yn y gwaith, dw i’n aml yn treulio amser yn eistedd wrth fy mhiano a chanu neu gyfansoddi tiwns bach. Felly mae’r stafell hon yn lle i gael llonyddwch gyda hobïau sy’n agos at fy nghalon. Ond dw i wrth fy modd gyda fy ‘stafell fyw achos mae ‘na lot o olau’n dod fewn i fan hyn, a dw i’n licio’r vibe gyda’r golau, y ‘feature wall’ gwyrdd a’r dodrefn. Ar ddiwrnod i ffwrdd, dw i wrth fy modd yn eistedd gyda phaned o de, yn gwylio’r gwiwerod a’r adar yn ymweld â’r ardd, tra’n chwarae rhywbeth ar y PlayStation 5 – bliss! Hefyd, dyma’r stafell sydd hefo rhai o fy hoff bethau ynddi – stôl fach du, cwpwrdd pren mango ciwt, a fy soffa felen gyfforddus. Mae ‘na lot o bren mango yn fy nhŷ – dw i wrth fy modd gydag oglau’r pren yma!
Mae genna’i gadair goctel binc yn fy stafell gerdd – dw i wrth fy modd gyda hon. O’n i wedi gweld y gadair yn Oliver Bonas nôl yn 2014, ond am flynyddoedd o’n i jyst yn edmygu’r gadair bob tro o’n i’n ymweld â’r siop neu’n sbïo ar eu gwefan. Wrth i’r cyfnod clo ddod i ben, wnes i sylwi bod y gadair wedi diflannu o’u gwefan – roedden nhw wedi dod a’r steil yma i ben. Yn lwcus, roedd ‘na un ar ôl yn Cheltenham, ond doedd genna’i ddim car! Felly mi wnes i deithio ar y trên – am y tro cyntaf ar ôl y cyfnod clo cyntaf – draw i Cheltenham i brynu’r gadair a chario hi nôl ar y trên i Gaerdydd. Ddim yn beth hawdd gyda maint y gadair! Ond doedd bron neb arall yn teithio ar y pryd, felly ches i ddim gormod o drafferth. Felly mae’r gadair yn dod ag atgofion da yn ôl: y tro cynta’ imi adael y ddinas am fisoedd oherwydd y pandemig, a’r adeg pan oedd pethau’n dechrau gwella. A tra’n aros am y trên nôl o Cheltenham, o’n i yno’n eistedd ar y platfform ar gadair goctel binc llachar oedd wedi’i lapio mewn bubblewrap! Roedd y dyn trên yn chwerthin – am olygfa!
I fi, mae cartref yn rhywle sy’n dangos eich personoliaeth yn y steilio a’r dodrefn, a lle sydd hefo atgofion – fel lluniau: mae genna’i luniau o gwmpas y tŷ o ffrindiau, teulu, a lluniau o fy ngwaith cyflwyno hefyd – pethau dw i’n falch ohonyn nhw, a phobl sy’n golygu lot i mi. Hefyd, ambell i atgof o fy mhlentyndod – fel dau Troll bach sy genna’i yn fy ’stafell gerdd, a ffrâm o Pogs ar y grisiau (sy’n mynd â fi nôl i’r 90au bob tro dw i’n gweld nhw!). Dw i’n hoff o greu gwaith celf hefyd, felly mae genna’i gwpl o luniau dw i ’di peintio o amgylch y tŷ (Ynys Llanddwyn yn y ffrâm du a’r galon liwgar y tu ôl i’r Trolls ar y silffoedd), a lino print bach (y radio du yn y ffrâm wen). Trwy’r elfennau yma, dw i ’di rhoi fy stamp bach fy hun ar fy nghartref, a dw i mor hapus yma.