Does dim dwywaith fod gwae’r amaethwyr dros y cyfnod diweddar wedi bod yn drychineb PR i Lafur Cymru. Mae ambell Aelod wedi dangos ansensitifrwydd rhyfeddol, megis Joyce Watson ar lawr y Senedd fis Tachwedd diwethaf yn datgan bod angen i ffermwyr mewn ardaloedd â statws TB gwastadol “fynd i chwilio am fusnes arall”. Nid dynes y ddinas mohoni chwaith, ond Aelod o Ranbarth y Canolbarth a’r Gorllewin hynod wledig. A’r wythnos ddiwethaf, mi gododd y Prif Weinidog glamp o nyth cacwn i’w ben yn ystod dadl danllyd arall â’i nemesis Andrew RT Davies ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy:
“Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig fy mod i’n atgoffa arweinydd yr wrthblaid pam ein bod ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi: mae oherwydd bod ffermwyr yng Nghymru wedi cymryd ei gyngor ac wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.”
Yn y cyfamser, mae ei lywodraeth yn gorymdeithio ac yn addo’r byd i weithwyr dur yn y cadarnleoedd Llafur wnaeth bleidleisio’n gryf dros y ‘B’ fawr drychinebus. Dewisodd 57% o etholwyr Castell-nedd Port Talbot ysgaru â’r Undeb Ewropeaidd yn 2016.
Tydi cyfraniad Ceidwadwyr Prydain i’r broblem ddim help chwaith. Adeg gwibdaith Rishi Sunak â chynhadledd Gymreig ei blaid yn Llandudno, roedd pawb o Janet Finch Saunders i’r ffarmwr The Only Way is Llanfairfechan yn ysu i dynnu llun efo prif weinidog San Steffan a hwrjio Andrew RT o’r ffordd. Ac ymhlith y dorf ar y prom, sawl ffarmwr yn clapio fel morloi wrth i’r Mab Darogan o Southampton annerch y camerâu teledu. “We need your help!” crefodd Gareth Wyn Jones, “We have got your back!” atebodd Rishi, gan anghofio’n llwyr am gytundeb masnach ei lywodraeth ag Awstralia fydd yn arwain at fflyd o fewnforion bîff sy’n methu safonau amgylcheddol a lles anifeiliaid uchel amaethwyr Cymru. Ac yn yr Observer y Sul diwethaf, roedd pennawd anghyfforddus i Sunak a’i grŵpis:
“Sunak stands with net zero and climate conspiracy group at farming protest”
Stori am sylfaenydd #NoFarmersNoFood oedd hon; neges gyfarwydd ar blacardiau du a melyn yn Llandudno a thu hwnt. Y Sgotyn James Melville, perchennog cwmni cyfathrebu a sylwebydd cyson i sianeli adain dde GB News a TalkTV. Mae Melville yn ddrwgenwog am wrthod cyfnodau clo ac wfftio brechlynnau Covid, a bellach mae’n cyhuddo llywodraethau’r byd o orfodi climate lockdown arnon ni gyd.
Tydi Gareth Wyn Jones ddim yn helpu’r achos yng Nghymru trwy gyfrannu’n rheolaidd i sianel GB News a mynd â Jacob Rees-Mogg am sbin PR i fyny’r Carneddau yn ei feic cwad. A doedd ei gyfweliad yntau a Nigel Owens ag aelodau The Voice of Wales ar risiau’r Senedd ddydd Mercher diwethaf ddim yn ddoeth ar y naw. Cafodd sianel y mudiad asgell dde eithafol hwn ei gwahardd yn barhaol gan YouTube 2021 oherwydd cynnwys hiliol.
Mae eraill yn prysur herwgipio’r agenda hefyd. Adeg ymweliad cythryblus Drakeford â champws Coleg Llandrillo, roedd lluniau’n dangos pobol ddŵad yn dal placardiau gwrth-20m.y.a. Mae arwyddion blinderus eraill wedi codi hefyd. Draw yng ngorymdaith Caerfyrddin, roedd poster ar bicyp yn sgrechian “Welsh Assembly Destroys Farming” ac ymddangosodd y neges ganlynol ar Facebook i ennyn cefnogaeth i gynulliad y Trallwng:
“Enough is enough and we in rural wales have had enough, we are bullied by the welsh assembly (sic) and the AM’s.”
Mae’r ffaith fod Senedd Cymru wedi disodli enw’r Cynulliad ers Deddf 2020 yn awgrymu bod uffar o waith addysgu eto. Ond testun colofn arall ydi hwnnw.
Am y tro, mae’n rhaid i’n hundebau amaeth ddod at ei gilydd, hawlio’r neges a chymryd yr awenau mwy cymedrol rhag i’r ymgyrch lithro i ddwylo pob Twm, Dic a Harri cynllwyngar. Ac mae angen i aelodau Plaid Cymru a’r Democrat Rhyddfrydol ategu’r neges mai dadl gyda Llywodraeth Cymru yw hon, nid y Senedd fel sefydliad democrataidd.