Dyma ŵyl Ddewi unwaith eto; ac unwaith yn rhagor mewn cwrdd, cyfarfod, swper a gwledd, caiff ei brofi y tu hwnt i bob amheuaeth nad yw Cymru’n brin o siaradwyr huawdl! Eleni, eto, bydd ein siaradwyr huotlaf yn traethu am dynged ein hiaith. Bydd datganiadau lawer mor druaned ein sefyllfa, a beth sydd rhaid gwneud – a pheidio gwneud – i ddiogelu’r hyn oll ydym fel Cymry. Yn y gyfrol Yr Un Hwyl a’r Un Wylo, mae’r englyn hwn gan Dic Jones:

Cawl

Ceir rysetiau ar gyfer popeth bron – ond cawl

Berwa dy gig y bore, – yna dod

Dy datws a’th lysie,

Toc o fara gydag e

A chaws, beth mwy ‘chi eisie?

Dychmygwch sicrhau dyfodol ein hiaith fel paratoi llond sosban o gawl. Buom, ers wythnosau, misoedd, blynyddoedd a degawdau’n trafod, a thrafod, a thrafod eto fyth rysáit y cawl. Beth sydd yn rhaid ei gynnwys er mwyn sicrhau ffyniant ein hiaith a’n hunaniaeth? Mae angen berwi’r cig – ein hiaith ag iddi statws swyddogol cyfreithiol. Rhaid ychwanegu’r tatws a’r llysie – y Gymraeg wrth wraidd Llywodraeth Cymru a’n pleidiau gwleidyddol bob un, yn rhan annatod o’n democratiaeth Gymreig, ac yn fyw a gweithredol drwy gyfryngau digidol. Toc o fara wedyn – gweithgarwch cymunedol, a phawb yn fodlon a pharod eu cyfraniad lle bynnag maen nhw; a chaws wedyn, ein hiaith yn iaith gymunedol fyw, nid dim ond i rywrai dethol, ond i bawb… beth mwy ‘chi eisie?

Eleni eto, ni fu, ac ni fydd sôn o gwbl am yr angen am gynnwys crefydd yn rysáit y cawl! Nid oes angen, mae’n debyg, ychwanegu crefydd i gawl parhad ein hiaith. Bu crefydd yn rhan annatod bwysig o’n hymwybod cenedlaethol ers y dechrau’n deg. Y gair annatod sy’n bwysig. Ie, annatod, ond bu ymgais i ddatod y cwlwm rhwng crefydd a chenedlaetholdeb, rhwng crefydd a thynged ein hiaith, ond cwlwm annatod yw hwn. Bu, ac y mae crefydd o hyd yn allweddol bwysig i’n hegwyddorion cenedlaethol.

Y ddau ddrwg yn y cawl yw Seisnigrwydd iaith – dyma sydd yn crebachu’r iaith – a Seisnigrwydd meddwl ac agwedd, a hyn yn waeth na’r cyntaf, gan ei fod yn lladd y meddwl a’r dychymyg Cymraeg. Heb hwnnw, nid oes diben i iaith, gan nad oes dim i’w fynegi ynddi a thrwyddi. Perthyn yr agwedd wrth-grefyddol sydd mor nodweddiadol o Gymry Cymraeg heddiw i’r Seisnigrwydd meddwl ac agwedd hwn. Nid rhywbeth greddfol, naturiol i ni’r Cymry mohono. Rhywbeth estron ydyw. Cafodd ei dderbyn yn llwyr a llawn – ac mae ein hymlyniad wrtho yn arwydd o lwfrdra enaid a diogi meddwl.

Câi ein hiaith ei diogelu, meddai lleisiau huawdl ein cyfnod, pe baen ni’n cael Cymru rydd, Cymru gyfan a Chymru ddeffroedig, ddigidol – cig, tatws, llysie, toc o fara a chaws … beth mwy ‘chi eisie?

Cymru grefyddol, yn ystyr orau a llawnaf y gair hwnnw! Dyna’r peth mwy – ychwanegol – sydd yn rhaid! Fe ellid anwybyddu crefydd fel tegan gwaeth na diwerth, fe ellid datgan nad oes a wnelo crefydd ddim â’n cymeriad a’n bodolaeth fel cenedl heddiw. Gellid dadlau felly yn hawdd ddigon, ond mae gwneud hynny’n prysuro tranc ein hiaith! Pam? Oherwydd crefydd ddiogelodd ein hiaith ar hyd y canrifoedd, crefydd roddodd i ni ymwybod cenedlaethol, a pherthynas crefydd a chenedlaetholdeb yw’r pwnc pwysicaf o bob pwnc yn ein trafodaeth o dynged yr hyn oll ydym fel Cymry.