Enw llawn: Caryl Mair McQuilling

Dyddiad Geni: 29 /04/1991

Man geni: Bangor (lle mae Matalan rŵan!)


Mae’n bosibl iawn y bydd rhai ohonoch eisoes yn gyfarwydd â Caryl Mair McQuilling – chi bobol Theatr, neu chi bobol sy’n ymddiddori mewn codi pwysau. Mae Caryl yn godwr pwysau arobryn, yn Rheolwr Cynhyrchu Cwmni ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru yn ac yn Gymraes falch.

Mae’n disgrifio’i hun mewn tri gair – ‘aflonydd, direidus ac ystyfnig’, ac ymhlith ei phrif lwyddiannau ym myd codi pwysau mae cipio’r drydedd wobr yn y categori -76kg ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Clasurol Merched y Gymanwlad 2022 yn Auckland, Seland Newydd. Hawliodd Danielle Reid-Clavelle yr ail wobr, gyda’r codwr pwysau byd-enwog Karlina Tongotea yn cipio’r wobr gyntaf – a honno’n athletwraig mae Caryl yn ei hedmygu’n fawr.

Un o atgofion cynharaf Caryl yn ferch fach tua saith oed oedd eistedd i wylio’r ffilm The Lion King.

“Dw i’n cofio gwylio’r ffilm The Lion King a mi oni’n crio achos bod Tad Simba wedi’i ladd. Doeddwn i wir ddim eisiau i neb fy ngweld i’n crio. Gymaint, nes i mi eistedd mor agos a allwn i at y sgrin teledu fel na fyddai neb yn fy ngweld i’n crio” meddai.

‘O golli pwysau i godi pwysau’

Wnaeth diddordeb Caryl mewn codi pwysau ddim cychwyn tan yn eithaf diweddar.

“Roeddwn i wastad wedi bod eisiau bod yn gryf, ac wedi bod yn mynd i’r gym ers fy mod i’n 16 neu’n 17 mlwydd oed, ac yn ryw fath o godi pwysau – ond roedd y ffocws wastad ar golli pwysau a bod yn denau. Fe aeth fy mhwysau i fyny ac i lawr lot dros y blynyddoedd.

“Wnaeth hynny setlo pan ddes i ar draws CrossFit yn 2018; es i’n obsessed efo CrossFit. Wedyn, yn y cyfnod clo, wnaeth fy ffocws shifftio i godi pwysau. Cyn i mi fynd ar Instagram a ballu, doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd o. Ond o 2021 ymlaen, wnes i rili ddechrau ffocysu ar godi pwysau.”

Un atgof ffurfiannol sydd ganddi wrth dyfu i fyny ydi gwylio rhaglen deledu WWF SmackDown ar Sky bob dydd Sadwrn – WWE (yn ddiweddarach) ac edmygu’r reslwr benywaidd Chyna.

“Roedden nhw’n galw Chyna yn ‘9th wonder of the world’. Roeddwn i’n caru ei gwylio hi. Roedd hi’n reslo dynion rili cryf ac yn eu curo nhw. Mi wnaeth hi fy ysbrydoli i. Roedd hi’n rhywun roeddwn i’n rili ei hedmygu yn tyfu i fyny – hyd yn oed ar ôl i mi stopio gwylio reslo. Mi wnaeth hi farw yn 2016, ac mi ysgytwodd hynny fi go iawn. Mae jest yn dangos pa mor ddylanwadol mae ffigyrau wyt ti’n gwylio ar y teledu yn medru bod.”

Er bod Caryl yn dweud iddi fod ‘dros ei phwysau’ ym mlynyddoedd iau ei hysgol uwchradd, wnaeth hynny ddim ei rhwystro rhag bod yn frwdfrydig dros chwaraeon, yn benodol pêl-droed bryd hynny.

“Doeddwn i ddim yn poster child ar gyfer ffitrwydd, ond roeddwn i’n rili da am chwaraeon – neu o leiaf yn rili frwdfrydig. Roeddwn i’n chwarae pêl-droed i dîm Blaenau Ffestiniog a Porthmadog pan oeddwn i’n tua Blwyddyn 7 i 9. Roeddwn i wrth fy modd yn chwarae pêl-droed.

“Dwi’n cofio chwarae mewn twrnament pan oedd Blaenau a Phort yn chwarae ei gilydd. Wnes i chwarae i Blaenau yn yr hanner cyntaf ac wedyn dros Borthmadog ar gyfer yr ail hanner. Er nad oedd pobol eraill yn fy ngweld i fel ffit ac iach, mewn ffordd, roedd yn amlwg fod gwerth ynof fi fel athletwraig o oed ifanc. Mae’n wallgof meddwl ’mod i’n athletwraig semi-professional bellach.”

Un codwr pwysau mae’n ei hedmygu’n fawr yw Karlina Tongotea o Seland Newydd, enw mawr ym myd y grefft o godi pwysau. Fe wnaeth Tongotea (76KG) osod record byd sgwatio o 225.5kg (497.1-pwys) gan ennill teitl IPF y Byd yn 2023. Mae hefyd yn edmygu Jonathan Cayco am ei arbenigedd a’i ddawn ym myd codi pwysau. Mae Cayco yn cystadlu yn y dosbarth codi pwysau 93kg, sy’n ddosbarth hynod gystadleuol.

“Dwi’n meddwl mai dyma ddau o’r goreuon yn y cyfnod cyfoes ac maen nhw’n parhau i wthio’r ffiniau o beth sy’n bosibl. Mae’r bar wastad yn codi – maen nhw’n anhygoel. Dwi’n bersonol wedi cwrdd â Karlina pan oedden ni’n cystadlu yn Seland Newydd ac wedi sefyll ar y podiwm efo hi – oedd yn brofiad rili rili nyts.”

Dau fyd: ‘Angerdd ac allfa i ddiffodd ymennydd’

Mae dau o brif ddiddordebau Caryl mewn bywyd, y theatr a chodi pwysau, yn mynd law yn llaw, meddai.

“Mae’r Theatr yn agos iawn at fy nghalon i. Mae’n rywbeth dw i’n angerddol amdano ac yn ei gymryd o ddifri, weithiau yn rhy ddifrifol ac yn gor-boeni. Ond, mae codi pwysau yn rhoi allfa i fi jest diffodd fy ymennydd a ffocysu ar sut mae fy nghorff i’n teimlo.”

Mae’n dweud bod disgyblaeth a chysondeb’ ymhlith ei phrif werthoedd mewn bywyd ym myd theatr a chodi pwysau, a’u bod yn berthnasol i bopeth mae’n gwneud o’r eiliad mae hi’n codi yn y bore. Wrth edrych i’r dyfodol, pe bai Caryl yn cael gwireddu unrhyw freuddwyd, un o’r rheiny fyddai teithio i Japan, meddai. Mae’n rywbeth mae wedi bod eisiau ei gyflawni ers blynyddoedd.

“Un freuddwyd arall, ond o fewn y byd codi pwysau tro hyn, ydi cystadlu i dîm Prydain mewn cystadleuaeth ryngwladol. Dwi wedi bod yn rili ffodus i gael cystadlu yn nhîm Cymru yn rhyngwladol mor fuan yn fy siwrnai codi pwysau. Ond mae’r gallu i gystadlu dros dîm Prydain ar y lefel nesaf i fyny rili.”

Petai Caryl yn gallu troi’r cloc yn ôl a rhoi cyngor iddi’n ferch fach, y cyngor y byddai’n ei roi ydi ‘dilyna dy lwybr dy hun, paid â thrio plesio pawb drwy’r amser, a gwarchod dy egni dy hun achos does neb arall yn mynd i edrych ar dy ôl di’.

Ac er ei bod yn cyfaddef bod hynny’n gallu swnio’n drist, mae wir yn credu yn y cyngor hwn, meddai.

“Mae wedi cymryd tan y blynyddoedd diwethaf yma i mi ddechrau ymarfer y cyngor hwn fy hun.”