Mae dynes fusnes sy’n wyneb cyfarwydd ar S4C, a hithau yn eistedd ar soffa Gogglebocs Cymru, yn arbenigo ar wneud triniaethau harddwch ac wedi llwyddo i ddenu cwsmeriaid o Dubai.

Ar ôl gweithio am bron i ddeng mlynedd yn adran frys Ysbyty Gwynedd ym Mangor, mentrodd Nayema Williams i fyd busnes a hyfforddi i wneud triniaethau cosmetig megis Botocs a gwneud gwefusau yn fwy plwmp, a dermal fillers sy’n cael eu defnyddio i leihau’r crychau ar y wyneb.