“Gwnewch y ‘Pwythau Bychain’ ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni a thu hwnt” yw neges a galwad Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ac Academi Heddwch Cymru, wrth iddyn nhw lansio prosiect ar y cyd â’r artist tecstiliau Bethan M. Hughes.
Bydd yr alwad am heddwch yn adleisio Deiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-24, ac yn symbol o’r dylanwad enfawr y gall menywod ei gael ar y byd wrth uno’u lleisiau.
Fel rhan o’r prosiect, caiff menywod heddiw eu gwahodd mewn gweithdai gan Bethan M. Hughes i bwytho’u llofnod, gyda’r darn terfynol yn cael ei arddangos yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ym mis Gorffennaf eleni.
Mae’r prosiect wedi’i ysbrydoli gan Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-4, pan wnaeth bron i 400,000 o fenywod lofnodi apêl yn galw am heddwch, a’i thywys i America i ymbilio ar fenywod y wlad honno i ddefnyddio’u dylanwad i annog llywodraeth y wlad i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd.
Y nod yw cynhyrchu dehongliad creadigol o’r ddeiseb wreiddiol mewn pwyth, trwy gyfres o weithdai wyneb yn wyneb ac ar-lein, gyda’r gobaith o ysbrydoli merched o bob cwr o’r byd i ddefnyddio’u llais a’u creadigrwydd i alw am heddwch.
‘Deiseb gelf’
Mae Bethan M. Hughes yn Artist Preswyl yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ar hyn o bryd, ac mae’r Ddeiseb Heddwch wedi ysbrydoli ei gwaith diweddaraf.
“Mae hanes y Ddeiseb wreiddiol, Deiseb Heddwch Menywod Cymru ganrif yn ôl yn wefreiddiol, ac fel artist tecstilau, cefais y syniad o ddechrau deiseb gelf sy’n rhoi cyfle i fenywod Cymru lofnodi eu henwau ar ffurf pwyth, o’r enw Edefyn Heddwch,” meddai.
“Y nod yw casglu enwau newydd sydd yn galw am Heddwch heddiw, gan hefyd greu darn o waith celf sylweddol a thrawiadol gyda’r gobaith o ysbrydoli a chreu cenhedlaeth newydd o weithredwyr Heddwch yng Nghymru heddiw.
“Mae fy niolch i brosiect ‘Hawlio Heddwch’ Academi Heddwch Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri am noddi’r prosiect ac i Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru am ariannu’r gwaith yn rhyngwladol fel y gall menywod ar draws y byd bwytho eu henwau dros Heddwch yn y pendraw.”
Deiseb 1924
Cafodd y ddeiseb wreiddiol – sy’n saith milltir o hyd, yn ôl y sôn – ei thywys i’r Unol Daleithiau mewn cist dderw gan Annie Hughes Griffiths, Mary Elis, Elined Prys a Gladys Thomas.
Yno, cafodd ei chyflwyno i fenywod America gan y ddirprwyaeth.
Ers 1923, roedd y ddeiseb wedi’i chadw yn sefydliad y Smithsonian yn Washington DC, nes iddi ddychwelyd i Gymru fis Ebrill y llynedd.
Yma, mae’n destun prosiect eang o dan ofal Academi Heddwch Cymru, sef ‘Hawlio Heddwch’ sy’n cydweithio â’r Llyfrgell Genedlaethol a nifer o sefydliadau a grwpiau i ledaenu’r hanes rhyfeddol.
Bellach, mae Cyngor Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn falch o gefnogi’r prosiect drwy’r ymgyrch ‘Pwythau Bychain’, fydd yn hyrwyddo llofnodi mewn pwythau yr alwad am Heddwch byd-eang.
‘Perthnasol iawn gweithredu dros heddwch’
“Wrth i ryfeloedd ffyrnig ledu ar draws Ewrop a’r Dwyrain Canol ac i’r Argyfwng Hinsawdd effeithio ar bob cwr o’r blaned, ma’n berthnasol iawn fod artistiaid a menywod o Gymru yn gweithredu dros Heddwch,” meddai Eluned Haf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, asiantaeth fewnol Cyngor Celfyddydau Cymru.
“Mae deiseb gelf newydd Bethan M. Hughes gyda’r Academi Heddwch yn adleisio llofnodion y ddeiseb wreiddiol o 1924 ac yn ein hatgoffa o’r angen parhaus i weithredu dros heddwch.
“Mae creu celf ar y cyd fel yma yn weithred bwerus wrth godi ymwybyddiaeth yng Nghymru ac yn ryngwladol.
“Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn falch iawn o allu cefnogi y prosiect yma, sy’n ennyn diddordeb cynyddol yng nghymunedau Cymru a led led y byd wrth i’r darn o waith newydd yma alw am fyd heddychlon o’r newydd.”
‘Trwsio pethau, bwyth wrth bwyth’
“Mewn dyddiau lle mae anferthedd problemau’r byd yn gallu peri inni deimlo’n ddiymadferth, mae’n dda iawn cofio y gallwn, bwyth wrth bwyth, drwsio pethau a chreu darlun newydd, gwell,” meddai Mererid Hopwood, cadeirydd y prosiect ‘Hawlio Heddwch’ ac ysgrifennydd Academi Heddwch.
“Dyna pam mae Academi Heddwch yn arbennig o falch o fod yn cydweithio â Bethan Hughes a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru ar ymgyrch gobaith y ‘Pwythau Bychain’.”
Bydd y gwaith terfynol a’r tapestri cyfan o’r holl lofnodion yn cael ei arddangos yn oriel Dory yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen eleni.