Bydd system newydd i gefnogi artistiaid Cymraeg newydd i gyhoeddi eu senglau cyntaf a hyrwyddo’r senglau hynny yn dechrau’n fuan.

Bwriad UNTRO yw cynrychioli, cydlynu a hyrwyddo traciau gan artistiaid newydd o Gymru, gan eu dysgu nhw am y broses o gyhoeddi a hyrwyddo caneuon.

Mae’r cynllun yn bartneriaeth rhwng PYST, Cymru Greadigol, BBC Radio Cymru, Lŵp/S4C a Klust.

Y band Cyn Cwsg fydd yn lansio’r system, gyda’u sengl gyntaf yn cael ei chyhoeddi ar Fawrth 8.

Bydd y cynllun hefyd yn anelu at greu tirlun cerddorol mwy cynhwysol a hygyrch, lle bydd cyfleoedd i ymwneud â’r byd cerddoriaeth Gymraeg yn agored, haws a chyfartal.

‘Cynyddu niferoedd artistiaid Cymraeg’

PYST fydd yn cydlynu’r ymgyrch hyrwyddo a dosbarthu, tra bod pob artist fydd yn cyhoeddi sengl ddigidol yn elwa ar sesiwn fentora gan gynhyrchwyr Radio Cymru.

Byddan nhw hefyd yn cael cyfweliad ar wefan gerddoriaeth Klust, lluniau proffesiynol, a fideo cerddoriaeth gyda Chronfa Fideos PYST x Lŵp.

“Mae creu’r system yma gyda phartneriaid a chefnogaeth labeli yn mynd i weld cynnydd yn niferoedd artistiaid newydd Cymraeg yn ogystal â sicrhau eu bod yn derbyn profiadau ac adnoddau gwerthfawr ar gychwyn eu siwrne,” meddai Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST.

“Bydd yn hwb pellach a chefnogaeth allweddol i’r genhedlaeth nesaf o gerddorion Cymraeg ac i waith labeli yng Nghymru.”

‘Diwydiant cerddorol llewyrchus’

Dywed Gethin Griffiths o BBC Radio Cymru eu bod nhw wastad yn falch o gefnogi artistiaid newydd.

“Mae pob artist wedi bod yn newydd ar un adeg, ac mae ein rhaglenni cerddorol nosweithiol, yn ogystal â rhai o’n rhaglenni dyddiol hefyd, wedi rhoi llwyfan i’r artistiaid hyn gael meithrin eu crefft.

“Pleser o’r mwyaf yw cael datblygu hyn ymhellach mewn partneriaeth gyda PYST, a chael gweithio tuag at ddiwydiant cerddorol llewyrchus yng Nghymru sy’n gweithio i’r enwau newydd yn ogystal â’r hen ffefrynnau.”

‘Datblygiad cyffrous’

Bwriad platfform Klust ydy hyrwyddo artistiaid newydd.

“Mae UNTRO yn ddatblygiad cyffrous i’r sin gerddoriaeth yma yng Nghymru a dwi’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r cwbl a chefnogi camau cyntaf artistiaid newydd dros y misoedd nesaf,” meddai Owain Williams, sylfaenydd y wefan.

“Bwriad Klust ydi hyrwyddo artistiaid newydd o Gymru, boed hynny drwy’r wefan, y cylchgrawn neu’r gigs, ac felly mae partneru gyda UNTRO yn teimlo fel rhywbeth naturiol iawn i wneud.”

‘Prosiect arloesol’

Ychwanega Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol, fod tyfu a meithrin artistiaid, lleoliadau a busnesau yn flaenoriaeth allweddol iddyn nhw.

“Mae’n wych gweld y gefnogaeth ariannol a ddarparwn i PYST yn elwa ar brosiect newydd, arloesol a fydd yn darparu sgiliau hanfodol a drysau agored i dalent gerddoriaeth newydd o Gymru, o bob cefndir,” meddai.

“Mae’r fenter newydd hon yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth ar draws y diwydiant.”