Mae chwaraewyr Cymru wedi ffurfio eu côr eu hunain, a chanu ‘Ar Lan y Mor’ wrth gael eu croesawu yn ffurfiol i ddinas Wellington, heddiw.
Yno y bydd tîm Cymru yn paratoi cyn herio De Affrica yn stadiwm y ‘Tun Cacen’ ddydd Sul.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru fod pob un o’r chwaraewyr a’u hyfforddwyr wedi canu Ar Lan y Mor ar ôl cael eu derbyn gan y Maori lleol yng nghanolfan hamdden Porirua.
“Mae’r Cymry a’r Maori yn bobol tebyg sy’n hoff iawn o’i gilydd,” meddai Robin McBryde, sy’n hyfforddi blaenwyr Cymru.
“Rydyn ni wedi cael croeso mawr ac mae hynny wedi bod yn hwb mawr i’r chwaraewyr.”
Cafodd Ar Lan y Môr wrth ymateb i gân Marae y Maori, a ddilynodd yr her haka traddodiadol.
Yna cyflwynwyd capiau Cwpan Rygbi’r Byd i’r chwaraewyr gan un o swyddogion yr IRB a chyn-gapten Lloegr, Bill Beaumont.
“Mae’r garfan wedi derbyn croeso gwych gan bobol sy’n amlwg yn caru rygbi,” meddai. “Mae’n fraint i’r chwaraewyr yma gael bod yn Seland Newydd a chymryd rhan yn y gystadleuaeth yma.”
Yn gynharach roedd dros 400 o gefnogwyr wedi teithio i weld Cymru yn hyfforddi yn Poriru.
Dywedodd Joanna Howard, sydd o Gymru yn wreiddiol ond bellach yn byw yn Wellington, ei fod yn “wych cael gweld sgwad Cymru yma o’r diwedd”.
“Mae rygbi yn bwysig i ni’r Cymry felly roedd yn brofiad arbennig cael eu gweld nhw’n hyfforddi.”