Castell Nedd 3 – 0 Airbus UK Brychdyn

Mae dechrau da Castell Nedd i’w tymor newydd yn parhau wedi eu buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Airbus ddydd Sul.

Roedd y tîm cartref ddwy gôl ar y blaen erbyn hanner amser diolch i Craig Hughes a Paul Fowler.

Daeth y drydedd yn fuan wedi’r hanner gydag erbyn Craig Hughes yn gwyro i’r rhwyd oddi-ar gefnwr Airbus, Danny Taylor.



Tref Aberystwyth 0 – 4 Tref Y Bala

Tîm arall sydd wedi creu argraff dros wythnosau cyntaf y tymor yw Y Bala, ac mae eu buddugoliaeth swmpus yn Aberystwyth yn cryfhau eu sefyllfa ar frig y gynghrair wedi pedair gêm.

Roedd Aber ar ei hôl hi o ddwy wedi dim ond saith munud o’r gêm – Lee Hunt yn sgorio wedi dwy funud, ac yna Mark Connolly’n ychwanegu’r ail bum munud yn ddiweddarach.

Cafodd eilydd Aber, Michael Howard ei yrru o’r maes cwta dri munud wedi dod i’r maes yn ystod hanner amser – pedwerydd cerdyn coch Aber mewn pedair gêm yn olynol.

Ychwanegodd Connolly ei ail wedi 61 munud cyn i Hunt yntau sgorio gôl arall ddeunaw munud o ddiwedd y gêm.



Dinas Bangor 4 – 1 Afan Lido

Sicrhaodd y pencampwyr eu hail fuddugoliaeth o’r tymor yn erbyn Afan Lido.

Roedd Bangor ar y blaen o fewn pedair munud gydag Alan Bull yn rhwydo. Er y siom, roedd yr ymwelwyr yn gyfartal naw munud yn ddiweddarach wrth i Jonathan Hood Sgorio’i ail o’r tymor.

Bu’n rhaid i selogion Ffordd Ffarrar aros nes yr ail hanner cyn gweld eu tîm yn sicrhau goruchafiaeth.

Peniodd Les Davies groesiad Sion Edwards i’r rhwyd wedi 51 munud, cyn i Chris Jones ymestyn y bwlch chwarter awr yn ddiweddarach.

Seliwyd y fuddugoliaeth gan yr eilydd Kyle Wilson saith munud o’r diwedd.


Tref Port Talbot 3 – 1 Y Drenewydd

Mae Port Talbot wedi codi i’r pumed safle wedi eu buddugoliaeth yn erbyn Y Drenewydd.

Yr ymwelwyr aeth ar y blaen wedi hanner awr gyda’r amddiffynnwr Kevin Davies yn sgorio yn ei gêm gyntaf i’r clwb.

Roedd y tîm cartref yn gyfartal cyn yr hanner ar ôl i drosedd gan Davies arwain at gic o’r smotyn llwyddiannus i Cortez Belle.

Daeth Martin Rose i’r cae fel eilydd i’r tîm cartref yn ystod hanner amser, ac ef oedd y gwahaniaeth mawr yn y gêm gan sgorio dwy wedi 76 munud ac yna 87 munud.


Tref Prestatyn 6 – 1 Tref Caerfyrddin

Caerfyrddin ddioddefodd y gweir fwyaf dros y penwythnos ym Mhrestatyn.

Roedd hi’n 4 – 0 erbyn hanner amser gyda gôl yr un i David Hayes, Ross Stephens, Neil Gibson a Steve Rogers.

Gwaethygodd pethau ymhellach wedi’r hanner i ddynion Tomi Morgan wrth i Chris Davies ychwanegu’r bumed cyn i’r chwaraewr-reolwr, Gibson, sgorio’r olaf wedi 66 munud.

Yr unig gysur i Gaerfyrddin oedd gôl gyntaf Jack Christopher i’r clwb yn y bum munud olaf.


Llanelli 0 – 1 Y Seintiau Newydd

Y Seintiau oedd yn fuddugol yng ngêm fawr y dydd oedd yn fwy ar raglen Sgorio. Mae adroddiad llawn o’r gêm fan hyn.