Nigel Davies
Aled Evans sy’n adolygu gêm gyntaf y Scarlets yng nghyngrair Pro12…
Sicrhaodd y Scarlets fuddugoliaeth gyntaf y tymor o 32 pwynt i 9 yn erbyn yr Eidalwyr o Aironi ar brynhawn gwlyb ym Mharc y Scarlets.
Rhys Thomas ac Andy Fenby sgoriodd y ceisiadau mewn ail hanner a oedd yn llawer gwell ar ôl 40 munud digon difflach.
Roedd troed dde ddibynadwy Dan Newton yn holl bwysig, ac fe fanteisiodd ar ddiffyg disgyblaeth y tîm a orffennodd ar waelod y gynghrair y llynedd.
Ni fydd hwn yn brynhawn a fydd yn aros yn hir yng nghof y chwech mil a mwy o gefnogwyr fu’n bresennol, ond roedd y fuddugoliaeth yn allweddol er mwyn sicrhau dechreuad positif i’r tymor.
Isel oedd safon y chwarae yn yr hanner cyntaf wrth i’r tywydd achosi nifer o gamgymeriadau elfennol gan y ddwy ochor. Aironi aeth ar y blaen yn gynnar yn dilyn un o dair gôl gosb gan Naas Olivier.
Ond bach iawn fu’r bygythiad i amddiffyn y Scarlets. Ni chroesodd Aironi linell dwy ar hugain y cochion yn y pedwar deg munud agoriadol.
Pum munud cyn yr hanner fe dderbyniodd y mewnwr Tito Tebaldi unig garden felen yr ornest, ac yn dilyn cic arall gan Newton roedd y Scarlets ar y blaen o 9 i 6 ar yr egwyl.
Fe gododd y tempo ar ddechrau’r ail hanner wrth i’r blaenwr Rhys Thomas o bawb hawlio cais cyntaf y tymor ym Mharc y Scarlets.
Un o’r wynebau newydd, Aled Thomas, a ddechreuodd y symudiad. Ffugiodd yn ddeallus cyn darganfod y bachwr Emyr Phillips ar yr asgell. Yn dilyn rhuthr nodweddiadol arall gan Ben Morgan yng nghanol y cae, ailgylchwyd y bêl yn gyflym gan alluogi Thomas blymio am y llinell yn y gornel.
Andy Fenby, yr asgellwr, sicrhaodd y fuddugoliaeth. Fe gollodd Fenby’r mwyafrif o’r tymor diwethaf drwy anaf, ond braf oedd ei weld yn rhwygo’r bêl yng nghysgod y pyst cyn llithro dros y llinell gais.
Roedd trosiad Newton yn llwyddiannus gan agor y bwlch rhwng y timau i ugain pwynt. Yr eilydd faswr, Rhys Jones, sgoriodd pwyntiau olaf y gêm gyda chic gosb syml, gan sicrhau fod y Scarlets yn ymuno a’r Gweilch a’r Gleision ar frig y tabl.
Fe fydd y garfan yn teithio i Iwerddon y penwythnos nesaf i herio Connacht. Ni fydd hon yn gêm hawdd gan iddynt hwythau ennill oddi cartref yn erbyn Treviso ar benwythnos cyntaf y tymor.