Y Seintiau Newydd gipiodd y tri phwynt yng ngêm fyw S4C brynhawn Sadwrn wrth iddynt drechu Llanelli oddi cartref ar barc gwlyb Stebonheath.

Greg Draper, yr ymosodwr o’r Seland Newydd, sgoriodd unig gôl yr ornest i’r Seintiau – a’i gyntaf y tymor hwn – wedi pum munud o’r ail hanner.

Methodd Llanelli a chlirio’n effeithiol wedi cic gornel Marcus Giglio o’r ochr dde, ac ymysg yr annibendod a ddilynodd, fe lwyddodd Draper i osgoi’r holl gyrff yn y cwrt gydag ergyd ffrwydrol i do’r rhwyd.

Gwendidau amddiffynnol sylfaenol oedd ar fai am gwymp Llanelli unwaith eto, ac roedd siomedigaeth Andy Legg yn amlwg yn ei ymateb wedi’r gêm:

“Dydyn ni methu amddiffyn o giciau gosod ar hyn o bryd, sy’n rhwystredig iawn i mi,” meddai Legg. “Rydyn ni wedi ildio dwy gôl o giciau cornel yn y ddwy gêm ddiwethaf.”

Ar y cyfan, roedd hon yn ornest gymharol ddifflach, gyda glaw trwm cyson a chae llithrig yn amharu’n sylweddol ar safon y chwarae.

“Roedd y cae ei hun mewn cyflwr gwych, ond yn amlwg roedd yr amodau’n galed. Roedd o’r un peth i’r ddau dîm yn y pen draw,” meddai cyfarwyddwr pêl-droed Y Seintiau Newydd, Mike Davies.

“Doedd hi ddim yn gêm wych, nac yn gyffrous iawn i’r cefnogwyr ei gwylio dwi’n siŵr,” ychwanegodd Davies.

“Mae’r ddau dîm yn chwarae pêl-droed da fel arfer, a dw i wedi gweld gemau llawer gwell rhyngom yn y gorffennol. Ond roedd hi’n gêm bwysig a’r un tîm eisiau colli, felly roedd hi’n dynn iawn trwy gydol y gêm.

“Dim safon y gêm yw ein blaenoriaeth ni yn y diwedd. Y peth pwysig yw ein bod ni wedi sicrhau’r tri phwynt.”

Fe geisiodd y dyfarnwr ei orau i rwystro llif y chwarae hefyd, gan ddwyn y sylw yn y broses. Mewn gêm weddol ddof, fe lwyddodd Dean John gyfiawnhau estyn i’w boced i ddangos saith o gardiau melyn ac un cerdyn coch (i’r ymosodwr Matt Williams – YSN) yn y 90ain munud.

“Dw i wedi mynd i drafferthion am gwyno am ddyfarnwyr yn y gorffennol,” meddai Mike Davies gan chwerthin.

“Ond rhaid i mi ddweud fy mod i wedi siomi gyda’r cerdyn coch ddangoswyd i Matty Williams. Roedd yn anlwcus, ac yn llym iawn yn fy marn i.

“Ond mae hi’n gallu bod yn swydd anodd. Fe gafodd y ddwy ochr benderfyniadau dadleuol yn mynd yn eu herbyn, ond wnaeth hynny ddim effeithio ar y canlyniad yn y pen draw.”

Prin iawn oedd cyfleoedd i’r naill ochr drwy gydol y gêm. Fe all Draper fod wedi cael cic o’r smotyn wedi hanner awr wedi i Stuart Jones ei daclo o’r tu ôl, ond gwrthodwyd hi gan y dyfarnwr.

Hefyd, dylai Craig Moses fod wedi gwneud yn well gyda chyfle euraidd o groesiad Craig Williams, ond fe beniodd yn syth at olwr y Seintiau, Paul Harrison.

Ni thrafferthwyd amddiffyn y Seintiau’n ormodol trwy gydol yr ail hanner, ac fe allent fod wedi dyblu eu mantais petai croesiad Jones i Giglio wedi bod yn gywirach.

Bu bron iawn i Chris Marriott roi gôl ar blât i ymosodwr y Cochion, Craig Moses, wrth geisio penio’n ôl at Harrison, ond yn y pen draw, fe lwyddwyd  i ddal gafael ar eu mantais yn weddol gyfforddus a chipio tri phwynt pwysig.

Amddiffynnwr y Seintiau Newydd, Steve Evans, enillodd enwebiad dyn y gêm gan Malcolm Allen am lwyddo i gadw ymosodwr Llanelli, Rhys Griffiths, yn dawel trwy gydol yr ornest (er bod hwnnw’n chwarae ei gêm gyntaf o’r tymor wedi iddo ddychwelyd o anaf).

“Roedden ni’n haeddu’r fuddugoliaeth ar sail perfformiad yr ail hanner,” meddai Mike Davies, “Roedden ni’n wael yn yr hanner cyntaf, ond dw i’n falch iawn o’r ffordd y gwnaethon ni ymateb i hynny a newid ein hagwedd wedi’r egwyl.

“Daeth y bois at ei gilydd yn yr ail hanner.”

Siomedigaeth Andy Legg

Roedd rheolwr Llanelli’n gandryll wedi’r gêm, gan ddweud y bydd rhaid i’w dîm chwarae yn well yn y dyfodol.

“Rydyn ni wedi colli dwy o’r pedair gêm gyntaf. Mae’n bosib mai dyna’r gêm olaf allwn ni fforddio ei cholli am ychydig,” meddai Legg.

Mae Legg eisoes yn pryderu am eu gobeithion am lwyddiant  y tymor hwn. “Rhaid i ni fynd ar rediad o bedwar neu pum buddugoliaeth nawr. Os wnawn ni ddim,  yna fe fyddwn ni mewn trafferth a fyddwn ni ddim yn gystadleuol y tymor yma.

“Roeddwn i’n meddwl mai ni oedd y tîm gorau heddiw, ond wnaethom ni ddim sgorio, ac os nad ydych chi yn sgorio, allwch chi ddim ennill gemau.”