Shane Williams
Mae Shane Williams “wedi cael llond bol” o golli yn erbyn De Affrica, meddai wrth baratoi i herio’r Springboks ddydd Sul nesaf.
Dyw’r asgellwr erioed wedi bod yn rhan o dîm sydd wedi maeddu De Affrica, er ei fod wedi chwarae yn eu herbyn nhw wyth gwaith.
Collodd Cymru bob un o’u tair gêm ddiwethaf yn erbyn y Springboks o bump, tri a phedwar o bwyntiau.
“Bob tro yr ydyn ni wedi eu herio nhw rydyn ni wedi dod yn agos iawn,” meddai Shane Williams.
“Ond rydw i wedi cael llond bol o ddod yn agos. Gobeithio y byddwn ni’n eu maeddu nhw am unwaith.
“Rydyn ni’n cystadlu am y cwpan ac rydyn ni’n gwybod beth sydd ei angen. Rydw i’n edrych ymlaen yn arw at y gêm gyntaf.
“Mae’r bechgyn yn gryfach nag y maen nhw wedi bod erioed o’r blaen, ac yn gryfach yn feddyliol nag oedden nhw yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc.
“Ond ni fydd hynny o bwys os nad ydyn ni ar ein gorau ar y diwrnod. Mae’r ddau dîm eisiau gweld i ba raddau y maen nhw wedi gwella dros y misoedd diwethaf.”
Er iddo sgorio un o’i geisiau gorau wrth i Gymru golli yn erbyn Ffiji yng Ngwpan Rygbi’r Byd 2007, dywedodd Shane Williams nad oedd eisiau byw trwy’r un profiad eto.
“Dyna un o ddiwrnodiau gwaethaf fy ngyrfa, a dweud y gwir,” meddai.
“Wrth gystadlu yng Nghwpan Rygbi’r Byd mae un camgymeriad yn ddigon i’ch llorio chi.”