Shaun Edwards a Warren Gatland
Mae Shaun Edwards wedi pwysleisio’r angen am ddisgyblaeth wrth i Gymru herio De Affrica yn eu gornest gyntaf yng Nghwpan Rygbi’r Byd wythnos i heddiw.

Roedd Cymru wedi ildio llai o giciau cosb na’r arfer yn ystod eu dwy gêm yn erbyn Lloegr a’u gêm yn erbyn yr Ariannin cyn teithio i Seland Newydd.

Ond pe na bai Cymru yn llwyddo i gadw’r disgyblaeth bydd Morné Steyn, sydd wedi sgorio bron i 350 o bwyntiau mewn 29 gêm prawf, yn siŵr o’u cosbi.

“Mae disgyblaeth yn bwnc llosg yn y garfan,” meddai hyfforddwr amddiffyn Cymru, Shaun Edwards. “Mae ar frig ein rhestr wrth ddechrau pob gêm.

“Rydyn ni’n gwybod ein bod ni wedi cael problemau gyda disgyblaeth yn y gorffennol, ond rydyn ni wedi gweithio’n galed iawn.

“Wrth herio Lloegr yn Twickenham fis diwethaf, dim ond pedair cic gosb ildiodd Cymru, sy’n record i ni.

“Roedden ni wedi ildio mwy yn y gêm wedyn, felly mae angen parhau i bwysleisio pwysigrwydd disgyblaeth i’r chwaraewyr.”

Daeth Cymru yn agos at faeddu’r Springboks yn ystod eu tair gêm ddiwethaf – gan golli 20-15, 34-31 a 29-25.

“Rwy’n credu’n gryf bod pob gêm yn her hollol wahanol i beth sydd wedi digwydd o’r blaen,” meddai Shaun Edwards.

“Mae’r tair gêm ddiwethaf wedi bod yn agos. Roedd y tair gêm yn Stadiwm y Mileniwm, ond eleni fe fydd y ddau dîm yn chwarae oddi cartref.”