Seremaia Bai
Mae Lynn Davies wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Seland Newydd a fydd yn dechrau yr wythnos nesaf, sydd ar gael i’w brynu o
wefan y Lolfa.

Bydd Ffiji yn gobeithio trechu Cymru unwaith eto eleni, fel y digwyddodd yng Ngwpan y Byd 2007, er mwyn ennill lle yn rownd yr wyth olaf.

Ond efallai mai’r gêm fwyaf tanllyd fydd eu gornest yn erbyn Samoa ar 25 Medi. Mae Stadiwm fwyaf Seland Newydd, Eden Park, wedi ei neilltuo ar ei gyfer…

Gan i Ffiji gyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd 2007, cafodd le awtomatig yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2011. I gyrraedd rownd y chwarteri yn 2007 fe gurodd hi dîm Cymru 38-31 mewn gêm gyffrous iawn.

Y capten yw Deacon Manu sy’n chwarae i dîm y Scarlets.

Cafodd ganlyniadau siomedig yn ystod tymor 2010-11 gan golli i Ffrainc a’r Eidal. Ond llwyddodd i gael gêm gyfartal yn erbyn Cymru yn Stadiwm y Mileniwm ym mis Tachwedd 2010.

Safle tebygol: Ennill un gêm yn y grwp

Y Record

Bydd Ffiji eleni yn chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y chweched tro ers sefydlu’r gystadleuaeth yn 1987.

Cyrhaeddodd rownd yr wyth olaf y flwyddyn honno ac eto yn 2007 pan roddodd fraw i enillwyr y Cwpan, De Affrica, wrth golli 37-20 wedi gêm glòs.

Ond yn 1991 cafodd gystadleuaeth siomedig wrth iddi golli pob un o’i gêmau grŵp.

Yr unig dro iddi fethu â chyrraedd y rowndiau terfynol oedd yn 1995.

Chwaraewr i’w wylio

Seremaia Bai

Maswr neu ganolwr cadarn a phrofiadol sydd wedi bod yn chwarae dros Ffiji ers 2000. Ni chafodd ei ddewis yn aelod o’r garfan ar gyfer Cwpan y Byd 2003 ond roedd yn un o chwaraewyr amlwg y wlad yng Nghwpan y Byd 2007.

Mae’n chwarae i glwb Castres yn Ffrainc ar hyn o bryd a chiciodd gôl gosb i ddod â Ffiji’n gyfartal â Chymru 16-16 fis Tachwedd 2010 yn Stadiwm y Mileniwm.

Yr Hyfforddwr

Sam Domoni

Enillodd Sam Domoni 5 cap fel clo i Ffiji a bu’n chwarae am gyfnod yn Lloegr i dimau’r Saraseniaid, y Gwyddelod yn Llundain a Redruth.

Cafodd ei benodi’n hyfforddwr yn 2009 ar ôl iddo dreulio rhyw bum mlynedd yn hyfforddi rhai o dimau llai Awstralia.

Cafodd ei benodiad ei feirniadu gan rai yn Ffiji oherwydd iddo gael cyn lleied o brofiad cyn hynny.

A wyddoch chi?

Ers 1939 bu’r tîm yn perfformio’r cibi cyn pob gêm, sef dawns ryfel sy’n dyddio o’r hen amser pan fyddai Ffiji’n arfer brwydro yn erbyn brodorion rhai o ynysoedd eraill y Môr Tawel.

Y flwyddyn honno, a hwythau ar daith yn Seland Newydd, dysgwyd y ddawns i’r chwaraewyr gan bennaeth un o lwythau traddodiadol y wlad. Bu’n daith hynod o lwyddiannus, gyda’r tîm yn ei chwblhau heb golli un waith, record sy’n sefyll hyd heddiw.

Hyd 1939 roedd yn well gan chwaraewyr Ffiji chwarae’n droednoeth ac roedden nhw wrth eu bodd yn chwarae rygbi agored cyffrous, a ddaeth yn nodwedd gyffredin o’u ffordd nhw o chwarae’r gêm.