Hyrwyddwyr yr iaith Māori, grŵp Te Panekiretanga o te Reo o Aotearoa, Seland Newydd, yn ymweld ag Eisteddfod yr Urdd (Llun: Golwg360)
Bydd hyrwyddwyr yr iaith Māori yn ymweld ag Eisteddfod yr Urdd heddiw wrth iddyn nhw barhau ar eu taith yn ymweld â chymunedau iaith bychain ar draws Ewrop.

Yn ystod eu hymweliad bydd grŵp Te Panekiretanga o te Reo o Aotearoa, Seland Newydd, yn perfformio dawns Haka draddodiadol  a gafodd ei chyfansoddi yn arbennig ar gyfer y daith.

Wrth deithio o amgylch Ewrop bydd y grŵp o 40 yn cyfarfod grwpiau iaith gwahanol mewn nifer o wledydd gan gynnwys yr Alban, Iwerddon a Gwlad y Basg.

Rhannu diwylliannol

“Rydym yma er mwyn arsylwi cenedl a phobl eraill sydd, fel ni, yn ymrwymedig i oroesiad ein hieithoedd brodorol dros y blynyddoedd i ddod,” meddai un o sylfaenwyr y grŵp Te Panekiretanga o te Reo, Timoti Karetu.

“Mae ymgyrchwyr dros y Gymraeg wedi bod ar flaengad y mudiad iaith, mudiad yr ydym ni hefyd yn rhan ohono… Mae’r holl syniadaeth a phrofiadau tebyg sydd ganddom fel rhan o gymunedau iaith bychain yn bwysig i’w rhannu.”

“Rhannu gwybodaeth”

Dywed Cymdeithas yr Iaith bod yr ymweliad yn rhan ehangach o waith y mudiad i gydweithio ag ymgyrchwyr iaith rhyngwladol i gefnogi a rhannu gwybodaeth ynglŷn ag ymarferion da.

Meddai Tomos Jones, Swyddog Rhyngwladol y Gymdeithas: “Mae cydsefyll a rhannu gwybodaeth gydag ymgyrchwyr iaith rhyngwladol yn hynod o bwysig i ymgyrchwyr y Gymdeithas.

“Mae’r frwydr barhaus i sicrhau dyfodol gynaliadwy i’r Gymraeg yn frwydr sydd yn gyffredin i sawl un o gymunedau ieithyddol y byd. Trwy undod â chydweithio gyda’n cyfeillion rhyngwladol mae’n bosibl dysgu a dod i sylweddoli ein bod yn brwydro gyda’n gilydd – nid ydym ar ben ein hunain fel rhan o’r mudiad i sicrhau cydnabyddiaeth a chyfiawnder ieithyddol.”