Wrth osod gweledigaeth ddeng mlynedd i wella gwasanaethau gofal iechyd i fenywod, mae Llywodraeth Cymru yn lansio Cynllun Iechyd Menywod heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 9).
Dyma’r cynllun cyntaf o’i fath yng Nghymru, a bydd cyllid gwerth £750,000 yn cael ei neilltuo ar gyfer ymchwil i gyflyrau iechyd menywod.
Mae Dr Helen Munro, yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Menywod, yn gobeithio y bydd yn sicrhau “newid cadarnhaol”.
Darparu gwell gwasanaethau iechyd i fenywod
Mae’r cynllun wedi’i greu gan y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Menywod, ac mae’n rhan o Weithrediaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.
Mae’r Weithrediaeth yn nodi sut y bydd sefydliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cau’r bwlch iechyd rhwng y rhywiau drwy ddarparu gwell gwasanaethau iechyd i fenywod, a sicrhau bod pobol yn gwrando arnyn nhw ac yn deall eu hangenion iechyd.
Er bod menywod yn byw yn hirach na dynion, mae ymchwil yn dangos eu bod nhw’n byw am lai o flynyddoedd heb anabledd, yn aros yn hirach am gymorth lleddfu poen, ac mae nifer yn dweud bod eu symptomau wedi’u diystyru.
Mae’r cynllun yn cynnwys ymwymiad i ‘Wneud i Bob Cyswllt Gyfrif’, fel ffordd o annog meddygon i ofyn i fenywod am iechyd mislif a’r menopos yn rhan o apwyntiadau rheolaidd.
Bydd y cynllun yn datblygu camau gweithredu ynglŷn â iechyd mislif, endometriosis ac adenomyosis, atal cenhedlu a chenhedlu ôl-enedigol, gofal adeg erthyliad, iechyd cyn cenhedlu, iechyd pelfig ac anymataliaeth yn ogystal â’r menopos, trais yn erbyn menywod, a heneiddio’n dda.
‘Bydd yn grymuso menywod i gael eu clywed’
Dywed y Prif Weinidog Eluned Morgan fod y cynllun yn sicrhau y bydd menywod yn derbyn gwell gwasanaethau iechyd “drwy gydol eu bywydau”.
“Mae iechyd menywod yn fwy nag iechyd gynaecoleg ac iechyd mamolaeth,” meddai.
“Rwy’ am i’r cynllun hwn fod y dechrau i well gofal i fenywod – rwy’ am i leisiau menywod gael eu clywed a bod eu profiadau yn cael eu cydnabod.
“Bydd yn golygu na fydd symptomau menywod, beth bynnag fo’u cyflyrau, yn cael eu hanwybyddu na’u diystyru.”
Ychwanega Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, ei bod yn falch o gefnogi’r cynllun fydd yn “annog gwelliannau gwirioneddol i iechyd a chanlyniadau menywod”.
“Rwy’n glir bod y cynllun hwn yn arwydd o newid sylweddol yn y ffordd mae’r Gwasanaeth Iechyd yn helpu menywod – bydd yn grymuso menywod i gael eu clywed wrth gael gafael ar ofal iechyd,” meddai.
“Dyma’r mecanwaith ar gyfer newid go iawn.
“Mae’n nodi sut y byddwn yn darparu’r gwasanaethau gwell mae menywod Cymru eu heisiau.”
Blaenoriaethu iechyd menywod
Gobaith Dr Helen Munro yw y bydd y cynllun yn “helpu i godi ymwybyddiaeth fod rhaid i iechyd menywod fod yn flaenoriaeth”.
“Yn glinigydd, rwy’n ymwybodol iawn fod gwasanaethau i fenywod yng Nghymru yn annigonol yn aml o ran diwallu gofynion ac anghenion menywod a darparu’r hyn maen nhw’n ei haeddu,” meddai.
“Rydyn ni’n gobeithio gallu newid hyn drwy roi’r cynllun hwn ar waith.
“Drwy gydweithio gwirioneddol ar draws systemau gofal iechyd, cydweithio â Llywodraeth Cymru ond, yn bwysicaf oll, cydweithio â menywod, gallwn sicrhau iechyd gwell i’r 51%.
“Heddiw, rydyn ni’n dechrau ar y gwaith o sicrhau bod newid cadarnhaol yn digwydd.”
‘Methiannau’
Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r amser hir gymerodd hi cyn i’r cynllun gael ei gyflwyno.
“Caiff ei gyflwyno flynyddoedd ar ôl i gynlluniau tebyg gael eu cyflwyno mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, ac wrth i arosiadau yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gyfer cyflyrau megis endometriosis gyrraedd bron i ddegawd i gleifion yng Nghymru,” meddai Gareth Davies, llefarydd iechyd meddwl a llesiant y blaid.
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisiau gweld Llywodraeth Lafur Cymru’n cydnabod y ffaith eu bod nhw wedi goruchwylio arosiadau am driniaeth drwyddi draw sy’n torri record, a cheisio mynd i’r afael â’r methiannau hyn o’r diwedd.”