Mae Junts per Catalunya, un o bleidiau annibyniaeth Catalwnia, wedi galw am bleidlais hyder ym Mhrif Weinidog Sbaen.
Daeth y cyhoeddiad gan Carles Puigdemont, cyn-arlywydd Catalwnia.
Dywed eu bod nhw wedi cyflwyno’r cais gerbron Cyngres Sbaen.
Yn sgil y cais, bydd gofyn i Pedro Sánchez wynebu pleidlais hyder yn ei arweinyddiaeth, ond dim ond fe ei hun all alw’r fath bleidlais.
‘Trobwynt’
Flwyddyn ers i Sánchez ddod i rym, mae’n wynebu “trobwynt”, yn ôl Carles Puigdemont.
“Rydyn ni eisiau i’r Arlywydd Sánchez, oedd wedi dibynnu ar ein pleidleisiau i fod yn arlywydd, sefyll i fyny i Senedd Sbaen a derbyn dadl ar le’r ydyn ni heddiw,” meddai.
Ychwanega nad yw e “wedi gwneud digon” fel bod gan bobol ffydd yn ei arweinyddiaeth o hyd.
Carles Puigdemont yn flaenllaw unwaith eto
Daw’r alwad gan Puigdemont fisoedd yn unig ar ôl iddo fe gael ei ethol yn arlywydd Junts per Catalunya.
Daw hynny ar ôl iddo fe fod yn byw’n alltud yng Ngwlad Belg ers refferendwm annibyniaeth Catalwnia yn 2017, oedd yn cael ei ystyried yn anghyfansoddiadol gan Sbaen.
Fe fu trafodaethau rhwng Junts per Catalunya a Llywodraeth Sbaen ar nifer o faterion sydd o bwys i Gatalwnia, ond mae yna anfodlonrwydd yn y blaid nad yw’r trafodaethau hynny wedi bod yn ddigon adeiladol hyd yn hyn.
Mae Carles Puigdemont yn beirniadu’r diffyg cynnydd sydd wedi bod ar faterion megis y gyfraith amnest i warchod unigolion fu’n rhan o ymgyrch annibyniaeth Catalwnia, a gwneud y Gatalaneg yn iaith swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae disgwyl i gyllid a Chyllideb Sbaen fod yn destun trafod rhwng gweinyddiaethau hefyd.