Yr anghyfiawnder welodd y Prif Weinidog wrth gael ei magu yn Nhrelái yng Nghaerdydd wnaeth ei hysgogi i ddilyn gyrfa mewn gwleidyddiaeth, meddai mewn podlediad newydd.

Wrth drafod ei chamau cyntaf i’r byd gwleidyddol ar Craffu360, podlediad newydd golwg360, dywed Eluned Morgan fod ei magwraeth yn Nhrelái wedi ei siapio “yn llwyr”.

Oherwydd yr hyn welodd hi yno, roedd hi’n benderfynol o helpu pobol, a thrwy wleidyddiaeth yr oedd hi am wneud hynny, meddai.

Gwleidyddiaeth yn “llwybr” i helpu pobol

Mewn cyfres podlediad newydd sy’n craffu ar fywydau a gwaith rhai o ffigurau gwleidyddol amlycaf Cymru, mae Eluned Morgan yn trafod ei gyrfa wleidyddol, ac yn edrych ymlaen at y flwyddyn a hanner sydd i ddod cyn etholiadau’r Senedd yn 2026.

Wrth i Rhys Owen, gohebydd gwleidyddol golwg360 a chylchgrawn Golwg, ei holi, dywed fod amryw o ffyrdd i helpu pobol, ond mai gwleidyddiaeth oedd y llwybr ddewisodd hi.

“Dw i’n meddwl bod lot o ffyrdd gwahanol o helpu pobol, ac mae pobol ar draws ein cymunedau yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol i helpu pobol,” meddai.

“Mae pobol yn y Gwasanaeth Iechyd yn helpu pobol, mae pobol yn gweithio fel gweithwyr cymdeithasol, mae pobol sy’n gweithio yn Llywodraeth Cymru yn helpu pobol mewn ffyrdd gwahanol.

“Ond i fi, roedd gwleidyddiaeth yn un o’r llwybrau yna, ac roedd e’n llwybr gefais fy nghyflwyno iddo yn ifanc iawn.”

Trelái wedi “siapio fi’n llwyr”

Cafodd Eluned Morgan ei magu ar ystad o dai cyngor yn Nhrelái yng Nghaerdydd.

Gweinidog oedd ei thad, Bob, oedd hefyd yn arweinydd Cyngor De Morgannwg.

Cynghorydd oedd ei mam, Elaine, hefyd.

Roedd yr aelwyd yn “bencadlys ar gyfer gweithgaredd gwleidyddol yng ngorllewin Caerdydd”, meddai, gyda phrif weinidogion y dyfodol, Rhodri Morgan a Mark Drakeford yn ymweld yn gyson.

Cafodd ei magwraeth yn Nhrelái ddylanwad mawr ar ei dyfodol, meddai wrth Craffu360.

“Dw i’n meddwl ei fod e wedi siapio fi’n llwyr,” meddai.

“Pan y’ch chi’n byw gyda phobol sydd efallai jest mor dalentog â chi ond efallai sydd ddim yn cael y cyfleoedd, dw i’n meddwl eich bod chi’n gweld fod yna anghyfiawnder i’w gael, ac eich bod chi eisiau gwneud rhywbeth amdano fe.

“Dyna wnaeth fy ysgogi i fynd i mewn i wleidyddiaeth.”